Norman Baker
Mae’r Democrat Rhyddfrydol Norman Baker wedi ymddiswyddo fel gweinidog yn y Swyddfa Gartref, gan ddweud bod gweithio i’r Ysgrifennydd Carttref Theresa May fel “cerdded drwy fwd.”
Mae’r AS wedi cyhuddo May o ystyried gweinidogion y Glymblaid fel “gog yn y nyth yn hytrach nag yn rhan o’r Llywodraeth.”
Daeth ei benderfyniad i ymddiswyddo ddyddiau’n unig ar ôl iddo fod ynghanol ffrae newydd ynglŷn â pholisi cyffuriau ac mae wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr o atal adroddiad a oedd yn cefnogi ei achos am ddiwygio’r gyfraith bresennol.
Dywedodd Norman Baker wrth yr Independent: “Maen nhw’n edrych arni fel adran Geidwadol mewn Llywodraeth Geidwadol, ond yn fy marn i, mae’n adran Glymblaid mewn Llywodraeth Glymblaid.”
Ychwanegodd ei fod wedi “gorfod gweithio’n galetach er mwyn cyflawni pethau” a’i fod wedi cyrraedd y pwynt lle nad oedd eisiau “cario mlaen i gerdded drwy fwd.”
Roedd penodiad Norman Baker i’r Swyddfa Gartref y llynedd yn ddadleuol gan fod yr AS wedi ysgrifennu llyfr yn honni bod David Kelly wedi cael ei lofruddio a bod y gwasanaethau diogelwch wedi ceisio celu’r wybodaeth.
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg wedi mynegi ei siom o golli “un o’r gweinidogion mwyaf effeithlon” yn y Llywodraeth ond ei fod yn deall yn iawn pam ei fod wedi ymddiswyddo.