Anas Sarwar - rhooi'r gorau i'r swydd (llun o'i wefan)
Mae’r Blaid Lafur yn wynebu mwy o anhrefn yn yr Alban wrth i’r Dirprwy Arweinydd ymddiswyddo’n annisgwyl, ynghanol etholiad i gael Arweinydd newydd.
Mae hynny’n golygu y bydd y ddwy swydd mewn dwylo newydd wrth i ddau bôl piniwn gwahanol awgrymu bod cefnogaeth Lafur yn y wlad yn cael ei chwalu gan yr SNP.
Fe ddaeth cyhoeddiad y Dirprwy Arweinydd, yr Aelod Seneddol Anas Sarwar, oriau ar ôl i AS arall, Jim Murphy, ddweud ei fod yn cynnig am yr arweinyddiaeth.
Tyndra
Mae’r penderfyniad yn arwydd o’r tyndra sydd wedi codi rhwng San Steffan a Chaeredin – y pwnc a achosodd ymddiswyddiad y cyn arweinydd Johann Lamont yn y lle cynta’.
Wrth ddweud ei fod yn sefyll, fe ddywedodd Jim Murphy y byddai’n rhaid iddo ef gael dirprwy arweinydd o blith Aelodau Senedd yr Alban.
Mae rhai eisoes yn credu bod Jim Murphy’n wynebu talcen caled oherwydd ei fod wedi’i gysylltu gyda gwleidyddiaeth San Steffan.
Mae’r ddau ymgeisydd arall sydd wedi cynnig eu henwau hyd yn hyn yn aelodau o Senedd yr Alban.
Arolygon barn
Wrth ymddiswyddo, roedd Johann Lamont wedi cyhuddo’r Blaid Lafur yn Llundain o drin y blaid yn yr Alban fel “swyddfa gangen”.
Mae dau arolwg barn bellach wedi dangos Llafur yn colli seddi yn yr Etholiad Cyffredinol nesa’ – i lawr i 4 yn ôl pôl IPSOS Mori ac i 10 yn ôl YouGov.