Mae elw cyn treth banc yr RBS wedi codi i £1.27 biliwn, o’i gymharu gyda cholled o £634 yr un cyfnod y llynedd.

Ond mae’r banc hefyd wedi rhoi £400 miliwn i’r neilltu er mwyn talu am ymchwiliad posib i honiadau o gamddefnydd o’r farchnad gyfnewid dramor.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i fanc Barclays roi £500 miliwn o’r neilltu yn rhan o’r un sgandal.

Trydydd chwarter

Dyma’r tro cynta’ i’r banc weld cynnydd yn ei elw am y trydydd chwarter yn olynol ers y dirwasgiad ac mae bron deirgwaith yn uwch nag elw’r chwarter cynt.

Mae mwy nag 80% o gyfrannau’r banc yn dal i fod yn nwylo’r Llywodraeth ers y pecyn i’w achub yn 2008.

Cyhoeddodd y banc y bydd yn parhau i redeg Ulster Bank, yn dilyn ymchwiliad strategol.