Dyw’r rhan fwyaf o gyn-weithwyr anabl Remploy ddim wedi dod o hyd i waith flwyddyn union ers i’r ffatrïoedd arbennig gau, yn ôl adroddiad newydd.
Fe gollodd tua 400 o bobol eu swyddi pan gafodd naw safle Remploy yng Nghymru eu cau yn 2012, yn dilyn penderfyniad gan Lywodraeth Prydain, ac yn groes i farn gwleidyddion Cymreig.
Yn ôl undeb y GMB mai dim ond un o bob pedwar o’r cyn-weithwyr trwy wledydd Prydain sydd mewn gwaith a bod amryw o’r rheiny’n gweithio llai o oriau neu ar dâl is.
Maen nhw’n dweud bod cau’r ffatrïoedd wedi gwneud i lawer o’r cyn-weithwyr deimlo’n “isel ac ynysig”.
Cefnogaeth ar gael, meddai’r Llywodraeth
Gwadu’r feirniadaeth y mae’r Adran Waith a Phensiynau yn Whitehall gan ddweud bod rhaglen waith gwerth £8 miliwn wedi ei threfnu i helpu’r cyn-weithwyr tros gyfnod o 18 mis.
“Ers y llynedd, mae mwy nag 80% o gyn-weithwyr Remploy wedi dod o hyd i waith neu yn derbyn cefnogaeth i wneud hynny,” meddai llefarydd.
Dadl Llywodraeth Prydain oedd y dylai gweithwyr gydag anableddau gael y parch o weithio mewn swyddi arferol, yn hytrach na swyddi arferol fel oedd yn ffatrïoedd Remploy.
‘Penderfyniad caled’
“Fe wnaeth y Llywodraeth ddinistrio bywydau mwy na 2,700 o weithwyr anabl mewn penderfyniad difeddwl a chaled,” meddai Jerry Nelson o’r GMB.
“Roedd y gweithwyr yn dibynnu ar eu gwaith i gynnal eu hannibyniaeth ac yn cael gweithio mewn gweithlu cyfartal.”