Arwyn Watkins (Llun: Y Ffederasiwn)
Fe fydd miloedd yn llai o brentisiaethau ar gael yng Nghymru, os bydd Llywodraeth Cymru’n bwrw ymlaen gyda thoriadau gwario.
Dyna rybudd y prif gorff yn y maes wrth iddyn nhw gynnal eu cynhadledd flynyddol a rhybuddio hefyd bod llawer gormod o’r arian cyhoeddus yn mynd ar fiwrocratiaeth.
Mae Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, sy’n cynrychioli tua 100 o gyrff a mudiadau, yn dweud y bydd prentisiaethau i bobol tros 25 oed yn cwympo o 24,000 ar hyn o bryd i 7,000 ymhen dwy flynedd.
Mae toriadau eisoes wedi bod mewn gwario yn y maes ond, erbyn 2016, fe fydd wedi syrthio o £105 miliwn i £74 miliwn.
‘Penderfyniadau anodd’
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw’n gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn wrth wynebu toriad o 10% yn eu gwario ac maen nhw wedi penderfynu canolbwyntio ar brentisiaethau i bobol ifanc rhwng 16 a 24 oed.
Ond, ar drothwy’r gynhadledd yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd, mae Prif Weithredwr y Ffederasiwn, wedi galw am drefn sy’n ymateb i’r galw am brentisiaethau yn hytrach na’r arian sydd ar gael.
‘Newid diwylliant’
Yn ôl Arwyn Watkins, mae angen newid diwylliant y maes gyda phwyslais ar gasglu gwybodaeth i weld pa brentisiaethau sydd eu hangen.
“Mae’n hollol ddibwynt i ni greu rhaglenni heb dystiolaeth fod galw amdanyn nhw,” meddai, gan alw ar i’r Llywodraeth drefnu archwiliad i weld a yw’r holl fiwrocratiaeth yn angenrheidiol.
Fe dywedodd hefyd bod tua thraean yr holl arian cyhoeddus yn mynd ar fiwrocratiaeth ac mae’n dweud bod prosesau tendro yn gostus a diangen, gan greu ansicrwydd i bawb ynglŷn â pha gynlluniau fydd ar gael.
Sylwadau Arwyn Watkins
“Rhaid i ni geisio gael gwared ar fiwrocratiaeth, dyblygu a gwastraff o faes dysgu yn y lle gwaith fel bod arian cyhoeddus yn cael ei wario ar ddarparu dysgu yn hytrach na’r gwaith papur sy’n gysylltiedig â hynny.
“Dw i’n mynd i al war Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru i gomisiynu’r Ffederasiwn i adolygu faint o fiwrocratiaeth sydd yn y system i adnabod a yw’n hanesyddol neun wirioneddol angenrheidiol.
“Lle mae’n ddiangen, beth am gael gwared arno, fel bod arian prin trethdalwyr yn cael ei wario ble mae’r angen fwya’ – ar y rhai sy’n dysgu – er mwyn gwneud dysgu yn y lle gwaith yn fwy cynaliadwy i bawb.”