Neuadd y Sir, Hwlffordd
Mae cynghorwyr yn Sir Benfro yn aros i glywed a fydd cyfarfod arbennig yn cael ei gynnal i drafod dyfodol eu Prif Weithredwr a’r taliad ffarwel iddo.

Cynyddu y mae’r dryswch ynglŷn â’i sefyllfa ar ôl i’r Archwilydd Penodedig sy’n cadw llygad ar y cyngor ddweud bod y taliad fel y mae yn anghyfreithlon.

Roedd y Prif Weithredwr, Bryn Parry Jones, i fod i adael ei swydd heddiw ond mae’r taliad ffarwel wedi ei atal am y tro ar ôl rhybudd ffurfiol gan yr Archwilydd.

Dryswch tros gyfarfod

Mae’r wasg a’r cyfryngau wedi cyhoeddi y bydd cyfarfod arbennig o’r cyngor yr wythnos nesa’ ond dyw hynny ddim yn sicr eto.

Pe bai’n cael ei gyhoeddi heddiw, fe allai gael ei gynnal ddydd Iau ond mae un o feirniaid penna’r Cyngor, y cynghorydd annibynnol Jacob Williams, wedi rhybuddio y gallai cytundeb newydd gael ei wneud y tu ôl i ddrysau caeedig.

Mae’n dweud fod peryg na fydd cynghorwyr yn cael cyfle i drafod y mater ac, felly, na fydd cyfle i wrthwynebu’r trefniadau diswyddo na cheisio atgyfodi proses ddisgyblu yn erbyn y Prif Weithredwr.

Gostwng y taliad

Y broblem gyda’r taliad ffarwel yw ei fod yn cynnwys arian i ddigolledu’r Prif Weithredwr am golli cyflog – gan gynnwys elfen o dâl sydd hefyd yn anghyfreithlon.

Un posibilrwydd, fyddai fod Bryn Parry Jones yn derbyn llai o arian – mwy na £50,000 yn llai.

Yn ôl Jacob Williams, fe allai arweinwyr y cyngor ddefnyddio’r ffaith fod y gwario’n is yn esgus i beidio â chael trafodaeth.

Mae arweinydd y Cyngor, Jamie Adams, wedi dweud mai newidiadau bychain sydd eu hangen i sicrhau bod y taliad ffarwel yn ddilys.