Mae pris petrol ar ei isa’ ers mwy na thair blynedd a hanner yn ôl cwmni moduro yr AA.

Mae disel hefyd wedi cyrraedd ei bris isa’ ers mis Ionawr 2011, wrth i brisiau cyfanwerthu tanwydd gwympo ac wrth i werth y bunt gryfhau.

Y pris ar gyfartaledd bellach, yn ôl yr AA, yw ychydig dan 130 ceiniog y litr am diesel ac ychydig dan 125c am betrol cyffredin.

Ers i’r arolwg gael ei wneud, mae tri o’r prif gwmnïau archfarchnadoedd wedi cyhoeddi eu bod yn gostwng prisiau ymhellach o 2c y litr.

‘Dim sicrwydd’

Er hynny, roedd pennaeth polisi ffyrdd yr AA, Paul Watters, yn rhybuddio nad oedd sicrwydd y byddai’r duedd yn parhau.

“Ers 2008, mae’r wlad wedi dysgu y gall pris nwyddau syflaenol gwypo un mis a chael eu cywiro neu lamu’n ôl y mis wedyn,” meddai.