Y Ditectif Uwcharolygydd y tu allan i'r ty (O fideo yr Heddlu)
Mae’n ymddangos bod tad wedi lladd ei wraig a’i ddwy ferch cyn ei ladd ei hun mewn digwyddiad yng ngogledd Lloegr.

Dyw heddlu lleol ddim yn chwilio am neb arall wrth ymchwilio i farwolaeth y teulu o bedwar yn eu cartref yn Bradford.

Maen nhw’n amau bod y cyrff wedi body n y tŷ ers tro cyn i gymydog eu galw gan ddweud nad oedd wedi gweld y pedar ers tro.

Daethpwyd o hyd i gyrff Jitendra Lad, 49, ei wraik Daksha Lad, 44, a’u dwy ferch, Trisha, 19, a Nisha, 17.

Galar

Roedd y stryd cul-de-sac yn ardal Clayton o’r ddinas wedi ei chau heddiw, ond roedd grwpiau o bobol ifanc yn cael mynd at y tŷ i ddangos eu galar.

Roedd y gŵr a’r wraig yn gweithio i Gyngor Dinas Bradford a’r ferch hyna’ yn y Brifysgol.

“Rydyn ni’n cadw meddyliau agored am hyn,” meddair Dotectif Uwcharolllygydd Simon Atkinson o Heddlu West Yorkshire. “Ond o’r hyn a wyddon ni ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn chwilio am neb arall.”