Ed Miliband
Mae dau arolwg barn gwahanol yn gosod Llafur a’r Ceidwadwyr yn hollol gyfartal ac UKIP yn dal i ennill tir.
- Union 32-32 yw hi rhwng y ddwy brif blaid yn ôl pôl diweddara’ cwmni You Gov i’r Sun – y trydydd arolwg i awgrymu eu bod yn gyfartal.
- Mae hwnnw’n gosod UKIP ar 18 a’r Democratiaid Rhyddfrydol ar 8%, dau bwynt uwch y Gwyrddion.
- Mae Llafur wedi syrthio i’w lefel isa’ ers i’r arweinydd Ed Miliband gymryd yr awenau yn ôl arolwg ComRes i bapurau’r i ar Independent.
- Yn hwnnw, mae Llafur a’r Ceidwadwyr ar 30 tra bod UKIP wedi codi bedwar pwynt i 19.
Barn y sylwebwyr yw fod y cynnydd hwnnw’n rhannol oherwydd trafferthion diweddara’ Llywodraeth Prydain tros daliad ychwanegol i’r Undeb Ewropeaidd.
Ond fe fyddai disgwyl i wrthblaid fel Llafur fod yn glir ar y blaen i Lywodraeth ar adeg fel hyn, gyda dim ond chwe mis tan Etholiad Cyffredinol.
Yn erbyn talu
Mae arolwg YouGov yn awgrymu bod mwyafrif (54%) o’r atebwyr yn dweud na ddylai’r arian gael ei dalu ar unrhyw gyfri’.
Dim ond 9% sydd o blaid ei dalu doed a ddêl tra bod 25% o blaid dadlau a thalu os bydd raid.