Mae’r corff plant rhyngwladol UNICEF wedi beio llywodraeth Prydain am adael i dlodi plant gynyddu ers dirwasgiad 2008, er iddo gwympo mewn 18 gwlad ddatblygedig arall.
Yn ôl y mudiad mae mwy nag un ym mhob pedwar plentyn yng ngwledydd Prydain bellach yn byw mewn tlodi.
Nid “damwain” yw hynny, yn ôl UNICEF, ond achos polisïau economaidd o gwtogi gwariant sydd wedi arwain at gyflogau isel a llai o fudd-daliadau.
Cymharu
Yn ôl adroddiad UNICEF – a oedd yn ystyried effaith y dirwasgiad economaidd ar blant rhwng 2008 a 2012 – roedd gwledydd Prydain yn 25ain allan o 41 gwlad ddatblygedig o ran cyfradd y plant oedd yn byw mewn tlodi.
Cynyddodd y gyfradd dlodi plant o 1.6% i 25.6%, ac roedd yr adroddiad hefyd yn feirniadol o’r cynnydd yn nifer y bobol oedd yn ei chael hi’n anodd talu rhent, gwresogi’u cartref a phrynu bwyd maethlon i’w plant.
Ond mae Llywodraeth Prydain wedi wfftio canfyddiadau’r adroddiad, gan ddweud fod UNICEF yn cymharu ystadegau mewn modd annheg.
‘Angen ailystyried’
Yn ôl David Bull, cyfarwyddwr gweithredol UNICEF UK, mae’r ffigurau’n dystiolaeth ei bod hi’n bryd i’r lywodraeth ailystyried ei blaenoriaethau economaidd.
“Mae’n siomedig gweld bod 18 gwlad wedi llwyddo i leihau tlodi plant yn ystod y cyfnod economaidd anodd hwnnw a bod Prydain wedi gweld y broblem yn gwaethygu,” meddai David Bull.
“Os allan nhw wneud hynny yng Ngwlad Pwyl, Canada, Yr Almaen ac Awstralia, pam na allwn ni? Nid damwain yw hyn – dyna brif neges yr adroddiad. Mae’n bosib gwneud dewisiadau gwell.”
Yn ddiweddar fe gyflwynodd Llywodraeth Prydain strategaeth i gael gwared â thlodi plant erbyn 2020, ond fe ddywedodd adroddiad gan gomisiwn ar dlodi plant nad oedd y cynlluniau’n mynd ddigon pell.
Ymateb y Llywodraeth
Wrth ymateb i adroddiad UNICEF fe fynnodd llefarydd ar ran yr Adran Waith a Phensiynau bod niferoedd y plant mewn tlodi yn cwympo ym Mhrydain, yn wahanol i awgrym yr adroddiad.
“Mae UNICEF yn gwneud cymariaethau sydd wedi eu hystumio,” meddai’r llefarydd.
“Mae ystadegau swyddogol Prydain yn dangos fod tua 300,000 yn llai o blant mewn tlodi neu mewn mewn teuluoedd di-waith o dan y Llywodraeth hon.
“Mae’n newidiadau ni’n gwella bywydau rhai o’r teuluoedd tlotaf wrth annog gwaith a’u cynorthwyo nhw i gael eu hunain allan o dlodi.”