Gareth Williams
Mae dedfryd cyn Ddirprwy Bennaeth Ysgol Gyfun Glantaf wedi cael ei gostwng o bum mlynedd o garchar i bedair.
Fe glywodd llys ei apêl heddiw yn erbyn maint y gosb ar ôl iddo gael ei ddedfrydu am sbecian rhywiol ar blant a bod â delweddau anweddus o blant yn ei feddiant.
Roedd Gareth Williams, 47, wedi pledio’n euog i 31 cyhuddiad ar ôl cyfaddef gosod camerâu mewn toiledau er mwyn ffilmio plant ac am fod â mwy na 16,000 o ddelweddau anweddus o blant yn ei feddiant.
Cafodd ei ddedfryd ei lleihau gan farnwyr yn y Llys Apêl yn Llundain heddiw a ddywedodd bod y ddedfryd yn “ormodol”.