Omar Deghayes, ewythr y bechgyn (Wikipedia-Tobias Klenze)
Mae dyn ifanc o wledydd Prydain wedi marw wrth ymladd yn Syria, fisoedd ar ôl i’w frawd hefyd gael ei ladd yno.

Yn ôl ei dad, fe gafodd Jaffar Deghayes, a oedd yn 17 oed ac yn dod o ardal Brighton, ei ladd wrth ymladd gyda gwrthryfelwyr Moslemaidd yn erbyn lluoedd arfog llywodraeth Syria.

Roedd ei frawd Abdullah, 18, hefyd wedi cael ei ladd ym mis Ebrill wrth ymladd gyda Jabhat al-Nusra, mudiad sydd yn gysylltiedig ag Al-Qaeda.

Trydydd mab yn cysylltu

Fe ddywedodd y tad, Abubaker Deghayes, bod trydydd mab sydd yn Syria, Amer, sy’n 20 oed, wedi cysylltu dros y we i ddweud wrtho.

Mae’r brodyr Deghayes yn neiaint i Omar Deghayes, gŵr a gafodd ei garcharu ym Mae Guantanamo gan yr Americaniaid rhwng 2002 a 2007 ar ôl cael ei arestio ym Mhacistan.

Fe gafodd ei ryddhau yn y diwedd heb unrhyw gyhuddiadau yn ei erbyn ac fe honnodd ei fod wedi colli un llygad wedi iddo gael ei gam-drin gan swyddogion yn y carchar.

Pryder am ragor

Mae swyddogion diogelwch yng ngwledydd Prydain wedi mynegi pryder ynglŷn â nifer y Moslemiaid Prydeinig ifanc sydd wedi teithio i Syria i ymladd dros y misoedd diwethaf ar ôl cael eu dylanwadu gan ideoleg eithafol.

Mae Amer Deghayes eisoes wedi ymddangos mewn fideo’n dweud y bydd yn aros yn Syria i ymladd ac mai “rhyfel Islamaidd” yw hwn yn hytrach na rhyfel cartref Syria.

Mae pedwar dyn ifanc Moslemaidd o ddinas Portsmouth eisoes wedi cael eu lladd yn Syria eleni ar ôl mynd allan yno i ymladd ac mae Caerdydd hefyd yn cael ei hystyried yn ganolfan recriwtio o bwys.

Dyn o Crawley hefyd

Yn ôl adroddiadau bu farw dyn arall, Abdul Waheed Majeed o Crawley  a oedd yn 41 oed, ar ôl iddo yrru lori llawn ffrwydradau i mewn i garchar yn Aleppo, Syria.

Dywedodd y Swyddfa Dramor eu bod yn ymwybodol o’r adroddiadau o farwolaethau dinasyddion Prydeinig yn Syria, ond ei bod hi’n anodd iddyn nhw gadarnhau hynny.