Mae disgwyl i ddyn oedd wedi llofruddio tri phlismon yng ngorllewin Llundain yn 1966 gael ei ryddhau o’r carchar – er bod barnwr ar y pryd wedi dweud y byddai’n marw dan glo.
Cafodd Harry Roberts, sydd bellach yn 78 oed, ei ddedfrydu i oes o garchar am yr hyn a gafodd ei alw’r “drosedd waethaf ers cenhedlaeth a mwy” gan y barnwr.
Roedd Roberts mewn fan gyda dau ddyn arall ger carchar Wormwood Scrubs yn paratoi am ladrad arfog pan ddechreuodd saethu at yr heddlu.
Cafodd y Ditectif Sarjant Christopher Head, y Ditectif Gwnstabl David Wombwell a’r PC Geoffrey Fox eu lladd yn y digwyddiad ar Awst 12, 1966.
Byddai Roberts wedi cael ei grogi pe na bai’r gosb eithaf wedi cael ei diddymu’r flwyddyn gynt, ond fe gafodd ei garcharu am o leiaf 30 o flynyddoedd.
Mae disgwyl i Roberts adael carchar Littlehey yn Swydd Gaergrawnt yn ystod y dyddiau nesaf.
Ond mae’r heddlu wedi beirniadu penderfyniad y bwrdd parôl.
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi gwrthod gwneud sylw.
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg wedi amddiffyn y penderfyniad, gan ddweud ei bod yn amlwg bod yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May wedi penderfynu peidio ymyrryd.