Alice Gross
Mae angladd y ferch ysgol Alice Gross yn cael ei gynnal yn Hanwell yn Llundain y bore ma.

Fe ddiflannodd y ferch 14 oed ar 28 Awst cyn i’w chorff gael ei ddarganfod dros fis yn ddiweddarach yn afon Brent yng Ngorllewin Llundain.

Mae nifer o bobl leol wedi ymgynull ar hyd strydoedd y dref gyda rhubannau melyn yn addurno’r coed – bu’r rhubannau yn symbol o obaith y byddai Alice yn cael ei darganfod yn fyw yn ystod y chwilio amdani.

Cafwyd hyd i gorff y dyn oedd yn cael ei amau o’i llofruddio, Arnis Zalkalns, yn crogi mewn coedwig gerllaw yn Boston Manor Park ar 4 Hydref.

Fe gymerodd dair wythnos i ymchwilwyr i’r llofruddiaeth sylweddoli fod Zalkalns i’w weld ar gamerâu CCTV yn seiclo y tu ôl i Alice Gross ar hyd llwybr Camlas y Grand Union ger ei chartref.

Cafodd Zalkalns ei garcharu am saith mlynedd yn ei wlad enedigol am drywanu ei wraig i farwolaeth. Mae’n debyg ei fod wedi dod i’r DU yn 2007 ond nad oedd gan yr awdurdodau yma gofnod o’r drosedd.

Fe ddiflannodd Zalkalns o’i gartref ar 3 Medi.

Mae adolygiad o sut y cafodd yr achos ei drin yn cael ei gynnal gan Scotland Yard.