Llyr Gruffydd
Mae galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru wedi iddi ddod i’r amlwg y bydd toriadau o fwy na £32 miliwn yn ei gyllideb.

Ddeunaw mis ers sefydlu’r corff sy’n gyfrifol am holl faterion amgylchedd Cymru, mae pryder bod ei ddyfodol yn ansicr.

Mae’n wynebu toriad o £32 miliwn i adran cyfoeth naturiol Llywodraeth Cymru a £7 miliwn i gyllid refeniw Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun ar gyfer y flwyddyn nesa.

Yn ôl Llŷr Gruffydd, llefarydd Plaid Cymru ar yr amgylchedd, mae “sefyllfa sydd yn ddrwg ar hyn o bryd am fynd yn waeth.”

‘Sialensiau ariannol’

“Fe wnaeth Plaid Cymru rybuddio’r Llywodraeth ddwy flynedd yn ôl bod risgiau sylweddol i gyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydym nawr yn gweld y pryderon yma yn cael eu cyfiawnhau,” meddai Llŷr Gruffydd.

“Wrth wynebu toriad o £32 miliwn i adran CNC o Lywodraeth Cymru a £7 miliwn i’r cyllid refeniw ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae sefyllfa sydd yn ddrwg ar hyn o bryd am fynd yn waeth.

“Rydym yn gweld staff yn cael eu diswyddo yn barod ac fe fydd y toriadau hyn yn effeithio’n glir ar wasanaethau ac mae bwriad i werthu tiroedd er mwyn cau’r bwlch yn y gyllideb.

“Mae’n rhaid i’r Llywodraeth esbonio yn llawn sut mae am gefnogi CNC i ddelio hefo’r sialensiau ariannol sydd o flaen corff amgylcheddol allweddol Cymru.”

Mae Golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ei hymateb.