Llid yr ymennydd
Mae adroddiad ar lid yr ymennydd a gyhoeddwyd heddiw yn pwysleisio pwysigrwydd diagnosis cynnar a brechu plant er mwyn gostwng nifer y marwolaethau sy’n cael eu hachosi gan yr afiechyd.

Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant sy’n cyhoeddi’r adroddiad ac mae’n dweud sut y gall symptomau cynnar llid yr ymennydd fod yn “anodd eu gweld”.

Mae achosion o’r afiechyd yn anarferol, gyda meddyg teulu yn gweld un achos bob 17 mlynedd ar gyfartaledd, ond mae’n “hynod bwysig” i rieni fedru adnabod y symptomau, yn ôl arbenigwyr.

‘Heriol’

Dywedodd un o awduron yr adroddiad, Dr Ciaran Humphreys, Ymgynghorydd mewn Iechyd y Cyhoedd a Dirprwy Gyfarwyddwr Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae symptomau cynnar llid yr ymennydd yn debyg i lawer o afiechydon cyffredin eraill ac felly gall gwneud diagnosis o’r afiechyd fod yn heriol.

“Fodd bynnag, mae yna lawer o ganllawiau ar gael ac mae’n rhaid i weithwyr proffesiynol gofal iechyd – yn ogystal â rhieni a gofalwyr – fod ar eu gwyliadwriaeth bob amser i beryglon yr afiechyd.

“Mae yna dystiolaeth glir bod brechiadau wedi bod yn eithriadol lwyddiannus yn atal mathau arbennig o lid yr ymennydd, ac felly mae’n hynod bwysig gofalu bod y rhaglen frechu gyfredol ar gyfer plant yn cael ei gweithredu’n effeithiol.”

Gostyngiad yn yr achosion

Mae’r adroddiad yn dangos gostyngiad yn nifer yr achosion o lid yr ymennydd mewn plant dros y blynyddoedd diwethaf.

Ers cyflwyno’r brechlyn 5-mewn-1 yn 1992, mae achosion o lid yr ymennydd Hib mewn plant wedi diflannu, bron yn llwyr yng Nghymru.

Ac yn dilyn cyflwyniad y brechlyn llid yr ymennydd niwmococol yn 2006 fe fu yna ostyngiad sylweddol mewn llid yr ymennydd niwmococol mewn plant llai na phump oed.