Mae dyn a dynes o Portsmouth a gafodd eu harestio ddoe ar amheuaeth o gyflawni troseddau brawychiaeth wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Cafodd y dyn 57 oed ei arestio ar amheuaeth o wrthod datgelu gwybodaeth am weithredoedd brawychiaeth, paratoi i gyflawni troseddau brawychiaeth a threfnu bod arian ac eiddo ar gael i gyflawni troseddau brawychiaeth.
Cafodd y ddynes 48 oed ei harestio ar amheuaeth o wrthod datgelu gwybodaeth am droseddau brawychiaeth.
Mae pedwar o bobol eraill – dau ddyn 23 a 26 oed a dwy ddynes 23 a 29 oed – a gafodd eu harestio’n parhau yn y ddalfa.
Cadarnhaodd llefarydd ar ran Heddlu Thames Valley fod y ddau o Portsmouth wedi cael eu harestio mewn perthynas â’r gwrthdaro yn Syria.
Ar hyn o bryd, mae’r heddlu’n gwarchod tŷ yn Portsmouth sydd wedi cael ei dargedu gan frawychwyr.
Cafodd ffenestri eu torri yn ystod y digwyddiad ac mae lle i gredu mai Ifthekar Jaman, a gafodd ei ladd yn Syria’r llynedd oedd yn berchen y tŷ.
Roedd Jaman yn un o nifer o Brydeinwyr sydd wedi teithio i Syria ac roedd yn adnabyddus am gynnig cyngor ar-lein i Fwslemiaid sy’n bwriadu teithio i ymladd yn y wlad.
Roedd e hefyd wedi ymddangos ar raglen Newsnight y BBC.
Mae nifer o bobol eraill sydd eisoes wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gyflawni troseddau brawychiaeth yn parhau i gael eu holi.
Mae gan yr heddlu tan Hydref 21 i holi tri dyn yn Llundain a gafodd eu harestio mewn perthynas â throseddau brawychiaeth, tra bod dau arall eisoes wedi cael eu rhyddhau ddydd Llun.
Mae’r heddlu gwrth-frawychiaeth wedi cael rhagor o amser i holi dyn 24 oed a gafodd ei arestio ddydd Llun, ac mae dau ddyn 21 a 25 oed yn parhau yn y ddalfa.