Albert Owen
Mae Aelod Seneddol Llafur Ynys Môn, Albert Owen, wedi croesawu penderfyniad Pwyllgor Cyfiawnder San Steffan i gynnal ymchwiliad swyddogol i Hawliau Maenorol.
Daw ar ôl i tua 4,000 o drigolion yr ynys dderbyn llythyr gan y Gofrestrfa Tir yn dweud bod eu heiddo o fewn y 10,000 erw sy’n rhan o hen Faenor Treffos.
Bu Albert Owen yn rhoi tystiolaeth ar lafar yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw ac mae’n gobeithio y bydd yr ymchwiliad yn arwain at ddiddymu’r Hawliau Maenorol.
Bu’n rhannu panel gydag Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth a’r grŵp ymgyrchu Gwrthryfel y Gwerinwyr.
‘Hawliau canoloesol’
“Ar Ynys Môn rydym wedi gweld 4,000 o drigolion yn derbyn gwybodaeth gan y Gofrestrfa Tir fod Hawliau Maenorol hynafol ar eu heiddo gan ddeiliad presennol y teitl Arglwydd Treffos,” meddai Albert Owen.
“Dylai’r hawliau canoloesol hyn cael eu diddymu, ynghyd â hawliau ffiwdal eraill sydd yn bresennol yn Neddf Cyfraith Eiddo 1925.
“Does dim lle mewn cymdeithas fodern i Hawliau Maenorol ac mae’n bryd i ni gael adolygiad llawn er mwyn eu diffodd. Mae pobl wedi prynu eiddo mewn ewyllys da ac ni ddylai fod yn destun hawliau eraill.”
Pryderon y trigolion
Cafodd hawliau maenorol eu sefydlu yn y Canol Oesoedd pan rannwyd tir rhwng arglwyddi ffiwdal gan olygu bod ganddynt hawliau hela, pysgota a mwyngloddio.
Roedd cais Arglwydd maenor Treffos, Stephen Hayes, yn ymestyn ar draws ardal ddeheuol a dwyreiniol yr ynys, ac mae trigolion yr ardal wedi codi pryderon y gallai hyn greu trafferthion iddynt wrth werthu tai a chael mynediad i forgeisi.
Maen nhw hefyd yn pryderu y gall olygu fod cwmnïau’n medru tyllu am nwy siâl ar eu tir.
Roedd gan arglwyddi’r maenorau tan Hydref 2013 i gofrestru’u hawl i’r tiroedd, ac fe gafodd 4,000 o gartrefi lythyr gan Stephen Hayes yn dweud ei fod wedi cofrestru’i hawl fel Arglwydd maenor Treffos.