Mae’r darlledwr Gwyddelig RTE wedi gohirio’r broses o ddod â gwasanaeth tonfedd hir i alltudion i ben.
Mae’r gwasanaeth LW252 yn darlledu rhaglenni i wrandawyr ym mhob rhan o wledydd Prydain, gan gynnwys rhannau o Ogledd Iwerddon sydd y tu hwnt i gyrraedd y gwasanaeth FM.
Roedd disgwyl i’r gwasanaeth ddod i ben ddiwedd y mis, ond mae pryderon ymhlith gwrandawyr nad oes gwasanaeth digonol i’w ddisodli.
Bellach, mae’r cwmni’n bwriadu dod â’r gwasanaeth i ben erbyn mis Ionawr y flwyddyn nesaf.
Dywedodd llefarydd ar ran RTE fod gohirio’r penderfyniad yn rhoi’r cyfle i wrandawyr ddod o hyd i wasanaeth newydd i wrando arno.
Mae penaethiaid RTE eisoes wedi mynd gerbron pwyllgor o aelodau seneddol i gyfiawnhau eu penderfyniad i gau’r donfedd hir.
Mae disgwyl i’r penderfyniad arbed hyd at 250,000 Ewro.
Ychwanegodd llefarydd RTE mai 37 o gwynion a dderbyniodd y cwmni pan gafodd y gwasanaeth ei atal dros dro am ddeuddydd yn gynharach eleni.
Yn ôl RTE, mae 98% o wrandawyr yr orsaf yn defnyddio tonfeddi eraill a gwasanaethau digidol i wrando ar raglenni.
Yn y cyfamser, mae RTE wedi penderfynu ail-gyflwyno swydd Gohebydd Llundain, gan ddileu swydd y Gohebydd Ewropeaidd ym Mrwsel.