Kirsty Williams
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams wedi beirniadu Llywodraeth Cymru wedi’r cyhoeddiad bod targedau amseroedd aros i gleifion canser wedi cael eu methu unwaith eto.
Mae hi bellach yn chwe blynedd ers i Lywodraeth Cymru lwyddo i gyrraedd y nod o sicrhau bod 95% o gleifion canser yn gweld arbenigwr o fewn 62 diwrnod ar ôl derbyn diagnosis.
Dim ond 85.2% o gleifion sy’n derbyn triniaeth o fewn yr amser penodedig ar hyn o bryd, a doedd yr un o fyrddau iechyd Cymru wedi cyflawni’r nod o 95%.
Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams: “Y llynedd, dywedodd y Gweinidog Iechyd y byddai’r nod o 62 diwrnod ar gyfer [cleifion] canser yn cael ei chyflawni erbyn mis Hydref 2013, ond dydy’r nod bwysig honno ddim wedi cael ei chyflawni.
“Mewn gwirionedd, dydy’r nod ddim wedi cael ei chyflawni unwaith ers i Carwyn Jones ddod yn Brif Weinidog.”
Dywedodd nad oedd yn “ddigon da” nad oedd yr un bwrdd iechyd wedi llwyddo i gyflawni’r nod o 95%.
“Mae cael diagnosis o ganser yn brofiad brawychus ac ni ddylid gorfodi unrhyw un i aros dros ddeufis cyn cael dechrau ar eu triniaeth.
“Boed yn amserau aros canser, trosglwyddo i driniaeth neu ymateb ambiwlansys, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi parhau i ddangos na all gadw trefn ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
“Gobeithio y bydd Llafur Cymru’n gwrando ar fy ngalwadau i sefydlu comisiwn trawsbleidiol a di-blaid i ymchwilio i sut y gallwn ni fynd i’r afael â’r problemau sylweddol y mae ein Gwasanaeth Iechyd yn eu hwynebu nawr ac yn y dyfodol.”
Triniaeth
Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru Darren Millar: “Wrth i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru geisio ymdopi gyda thoriadau Llafur, nid yw’n ymddangos y bydd gweinidogion Llafur yn gweithredu i gyflymu’r amseroedd aros fel bod cleifion yn gallu dechrau eu triniaeth yn gynt.
“Ar ôl cael diagnosis o ganser posib, mae’n hollbwysig i ragolygon cleifion eu bod nhw’n dechrau eu triniaeth ar unwaith.
“Mae’n rhaid i weinidogion Llafur fynd i’r afael a’r amseroedd aros yma.”
Mae Darren Millar wedi galw a sefydlu Cronfa Triniaethau Canser er mwyn rhoi mynediad i gleifion at feddyginiaethau canser.
‘Siomedig’
Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru Elin Jones ei bod yn “siomedig” bod cymaint o gleifion yn gorfod aros yn rhy hir am driniaeth.
“Mae’n glir bod angen gwneud gwelliannau sylweddol i gynnal y gwasanaethau yma. Ond nid yw Llywodraeth Cymru hyd yma wedi gallu dangos ei bod yn gallu cyflwyno’r gwelliannau,” meddai Elin Jones.
Ymateb
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r ffigurau ar gyfer mis Awst yn dangos gwell berfformiad yn erbyn y targed 31 diwrnod ar gyfer [cleifion] canser – dechreuodd 97.7% o gleifion canser eu triniaeth o fewn 31 diwrnod.
“Dros y 12 mis diwethaf (mis Medi 2013 i fis Awst 2014), bu cynnydd o 18% yn nifer y bobol a gafodd ddiagnosis o ganser trwy’r llwybr rhagdybio brys ac a ddechreuodd ar eu triniaeth o fewn 62 diwrnod o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol (mis Medi 2012 i fis Awst 2013).
“Er gwaetha’r cynnydd hwn, mae’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru’n parhau i drin bron i naw allan o 10 o gleifion o fewn 62 diwrnod.
“Rydym yn benderfynol o sicrhau bod pob unigolyn yng Nghymru’n derbyn y gofal gorau posib sydd ei angen arnyn nhw ac rydym yn parhau i gydweithio’n agos â’r byrddau iechyd i wneud rhagor o welliannau.”