Y ffrwgwd yn dilyn yr ergyd
Mae prop Wigan a Chymru, Ben Flower wedi cael ei wahardd rhag chwarae am chwe mis ar ôl iddo gael ei anfon o’r cae am daro gwrthwynebydd yn Ffeinal Fawr y Super League dros y penwythnos.

Cafwyd y prop 26 oed yn euog o ymosodiad ‘maleisus’ ar chwaraewr St Helen’s Lance Hohaia.

Flower yw’r chwaraewr cyntaf i dderbyn cerdyn coch mewn Ffeinal Fawr, ac fe benderfynodd panel disgyblu ei wahardd a’i ddirwyo.

Mae’r gwaharddiad yn golygu y bydd Flower yn colli 13 o gemau.

Gwnaeth y panel gydnabod fod Flower wedi ymateb i dacl ffyrnig gan Hohaia ond fod yr ymosodiad yn “faleisus, yn fwriadol ac y gallai fod wedi achosi anaf difrifol”.

Mae Wigan wedi dweud na fyddan nhw’n apelio yn erbyn y gwaharddiad, ac mae St Helen’s wedi dweud na fyddan nhw’n cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Flower.

Mae Hohaia wedi cael ei wahardd am un gêm o ganlyniad i’w dacl ar ei wrthwynebydd.

Mae’r cyn-chwaraewr rygbi’r gynghrair a rygbi’r undeb Gareth Thomas, sy’n ffrind i Flower, wedi dweud y bydd yn ei gefnogi yn ystod ei waharddiad.

Dywedodd wrth Radio 5 Live fod Flower wedi “gweithredu allan o wylltineb yn groes i’w gymeriad”.

Mae hyfforddwr Cymru, John Kear wedi dweud ei fod yn disgwyl i Flower ddychwelyd yn well chwaraewr o ganlyniad i’r digwyddiad.

Bygythiadau ar wefannau cymdeithasol

Yn y cyfamser, mae Heddlu Greater Manchester yn ymchwilio i fygythiadau yn erbyn Flower ar wefannau cymdeithasol.

Cafodd cyfres o negeseuon cyhoeddus bygythiol eu hanfon at y chwaraewr.

Dywedodd rhai o’r negeseuon fod Flower “yn haeddu cael ei saethu” a’i fod yn “agosáu at ei ddyddiau olaf” a’i fod yn “ddyn marw”.