Dan Lydiate
Fe all chwaraewyr rygbi Cymru a Racing Métro, Jamie Roberts, Mike Phillips a Dan Lydiate, ddychwelyd i Gymru cyn diwedd yr wythnos mewn datblygiad sydd wedi cael ei ysgogi gan Undeb Rygbi Cymru.
Ymunodd y canolwr Jamie Roberts a’r blaenasgellwr Dan Lydiate â’r clwb ym Mharis ddechrau’r tymor diwethaf, tra bod Mike Phillips wedi ymuno a’r clwb fis Rhagfyr diwethaf ar ôl cael ei ddiswyddo gan Bayonne am resymau disgyblu.
Mae’r adroddiadau ym mhapur newydd L’Equipe yn Ffrainc yn awgrymu bod Undeb Rygbi Cymru yn bwriadu rhyddhau’r tri o’u cytundebau.
Y gobaith fyddai eu gosod nhw gydag un o ranbarthau yng Nghymru cyn y penwythnos, pan fydd gemau cychwynnol Cwpan Rygbi Pencampwyr Ewrop ar ei newydd wedd yn cael eu chwarae.
Mae Roberts a Lydiate wedi cael anafiadau yn ystod eu cyfnod yn Ffrainc.
Heddiw, daeth adroddiadau i’r amlwg hefyd fod chwaraewr Toulon, Steffon Armitage, hefyd yn bwriadu dychwelyd i’r DU er mwyn ceisio am le yn nhîm Lloegr ar gyfer Cwpan y Byd y flwyddyn nesa.