Mae rheolwr Cymru wedi mynnu y dylai rhai o chwaraewyr Cyprus fod wedi cael eu hanfon o’r maes neithiwr ar ôl gwylio’i dîm yn cipio buddugoliaeth bwysig o 2-1 yn eu gêm ragbrofol Ewro 2016.
Roedd goliau David Cotterill a Hal Robson-Kanu yn yr hanner cyntaf yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i’r crysau cochion sydd yn eu cadw ar frig eu grŵp ar ôl tair gêm.
Cafodd naw cerdyn melyn eu dangos gan y dyfarnwr Manuel Grafe o’r Almaen wrth i bethau boethi ar adegau, pump i Gyprus a phedair i Gymru – yn ogystal â cherdyn coch i chwaraewr canol cae Cymru Andy King.
Dywedodd Coleman ar ôl y gêm nad oedd yn cwyno am y cerdyn coch, wrth i King wneud ymgais flêr i daclo Konstantinos Makridis a sathru ar ei sawdl yn lle hynny.
Ond roedd yn beio’r dyfarnwr, gan ddweud os oedd tacl King yn haeddu coch y dylai ambell un o’r ymwelwyr fod wedi mynd am fath cynnar hefyd.
“Y cerdyn coch, os chi’n edrych ar y dacl roedd hi’n dacl drom,” cyfaddefodd Coleman. “Ond os yw e’n anfon un o’n bois ni i ffwrdd siawns y gallai e anfon un neu ddau o’u rhai nhw – doedden nhw ddim yn swil chwaith!
“Ond clod i’r bechgyn, yn yr ymgyrch ddiwethaf mae’n siŵr na fydden ni wedi ennill gêm fel honna. Doedd gennym ni ddim yr un agosatrwydd y tro diwethaf ac sydd gennym ni bellach, mae hynny’n saff.”
Galw am gysondeb
Roedd Coleman yn anhapus â rhai o benderfyniadau’r dyfarnwr ar nos Wener yn erbyn Bosnia hefyd, pan fu rhaid i Jonathan Williams adael y cae yn fuan oherwydd iddo gael ei gicio cymaint.
Ac mae rheolwr Cymru’n mynnu nad yw Gareth Bale, gafodd ei dargedu gan Gyprus hefyd neithiwr, yn cael ei amddiffyn ddigon gan ddyfarnwyr.
“Mae Baley’n gwybod cyn cerdded ar y cae ei fod am gael ei gicio, dw i ddim yn cwyno am hynny, ond mae’r dyfarnwr yno i wneud penderfyniad,” meddai Coleman.
“Roeddwn i’n gwybod ei fod am ddigwydd cyn gynted ag yr aeth Churchy [Simon Church] i lawr yn y munud cyntaf yn gafael ei ysgwydd.
“Roedd y dyfarnwr cynorthwyol yn gweiddi ‘trosedd’, ond wnaeth y ref ddim ei roi, a chi’n meddwl ‘dyma ni eto’.
“Dw i ddim yn cwyno am Gyprus, maen nhw’n gwneud beth sy’n rhaid iddyn nhw wneud i ennill gêm, dyna yw pêl-droed.
“Ond fel arfer pan ni’n chwarae timau eraill yn eu hiard gefn ac mae’u seren nhw’n cael ei gicio, mae ‘na gosb a chiciau rhydd – dyw hynny ddim yn digwydd gyda ni.”
Clod i’r bechgyn
O dan yr amgylchiadau heriol hynny roedd gan Coleman ddigon o glod i’w roi i’r chwaraewyr canol cae David Cotterill, a ddaeth ymlaen am Church, a Hal Robson-Kanu a ddechreuodd yn lle Jonathan Williams.
Fe sgoriodd y ddau ohonyn nhw goliau Cymru wrth iddyn nhw fynd 2-0 ar y blaen yn yr hanner cyntaf, cyn i Gyprus daro nôl drwy Vincent Laban.
Ac mae’r rheolwr Cymru’n cyfaddef ei fod wedi dechrau poeni ar un cyfnod yn yr ail hanner, pan oedd Cyprus yn rheoli’r gêm yn dilyn ymadawiad King.
“Wrth edrych nôl ar y gêm nawr a gwybod y canlyniad, do nes i fwynhau!” meddai Coleman. “Ond allai ddim dweud mod i wedi mwynhau pan ddaeth y cerdyn coch ‘na allan, fe suddodd fy nghalon i fod yn onest.
“Unwaith aethon ni 2-0 ar y blaen fe ddylen ni fod wedi cael tair neu bedair, efallai’n bod ni wedi ymlacio ychydig.”
Does ganddo fawr o reswm i gwyno ar hyn o bryd, fodd bynnag, gyda Chymru nawr yn eistedd yn daclus ar frig eu grŵp gyda saith pwynt o’u tair gêm gyntaf.
Yr her nesaf fydd trip i Wlad Belg ym mis Tachwedd, wrth i Gymru geisio cadw’r freuddwyd yn fyw o gyrraedd Pencampwriaethau Ewrop 2016.