CYMRU 2-1 CYPRUS
*Goliau Cotterill a Robson-Kanu yn yr hanner cyntaf yn ddigon
*Laban yn taro nôl i Gyprus cyn yr egwyl
*Cerdyn goch i Andy King ar ôl 47 munud
21.44: Canlyniad gwych i Gymru, yn enwedig o gofio’u bod nhw wedi chwarae bron yr holl ail hanner efo deg dyn ar ôl cerdyn coch Andy King!
Diolch am ymuno â ni ar y blog byw heno – fe ddown ni a sylwadau Coleman a’r tîm ar golwg360 yn fuan i chi.
21.41: Y CHWIB OLAF YN CHWYTHU! CYMRU’N ENNILL 2-1!
Hydl arall ar y cae ar ddiwedd y gêm wrth i Gymru sicrhau tri phwynt allweddol – nhw sydd ar frig Grŵp B rhagbrofol Ewro 2016 ar ôl tair gêm!
21.40: Cerdyn melyn i Giorgios Merkis am lorio Bale, a dyna ni mae’n siŵr …
21.35: Y cloc yn taro 90 munud, ac mae ’na bedwar munud o amser ychwanegol.
21.32: Bale yn cael ei lorio, y dorf yn gweiddi am gic o’r smotyn … ond cic rydd meddai’r dyfarnwr, ar ochr chwith y cwrt.
Y bêl yn mynd am gornel, a Dave Edwards yn penio heibio i’r postyn. 86 munud wedi bod.
21.30: Torf o 21,273 yn y gêm heno, felly ddim yn ffôl o gwbl am gêm nos Lun.
Jake Taylor yn paratoi i ddod i’r maes i Gymru yn lle Hal Robson-Kanu, sgoriwr ail gôl Cymru. Y dorf yn dangor eu gwerthfawrogiad, a Taylor yn ennill ei gap cyntaf.
21.27: Deg munud i fynd yma yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ac mae Cyprus yn parhau i weld mwy o’r bêl heb wir greu cyfleoedd.
All deg dyn Cymru ddal ymlaen i’r tri phwynt? Y dorf yn codi llais unwaith eto, ond dydyn nhw ddim hanner mor swnllyd ag yr oedden nhw yn erbyn Bosnia.
21.19: Bale yn cael cic rydd o 40 llathen ac yn ei waldio hi’n bell, bell dros y trawst. Rydan ni mewn i’r ugain munud olaf, a Chymru’n dal eu tir am rwan.
Belg yn gyfartal 1-1 yn erbyn Bosnia bellach hefyd, Radji Nainggolan gyda’r gôl.
21.15: Eilydd i Gyprus, gyda Nektarios Alexandrou yn dod ymlaen am Marios Nikolaou.
Bale yna’n methu cyfle gwych, gan wasgu heibio i bawb ar yr ystlys dde a gwasgu ergyd bron o linell y gôl, drwy goesau’r golwr ond yn anffodus heibio i’r postyn pellaf hefyd”
21.10: Cerdyn melyn i Pieros Sotiriou am wthio James Chester gyda’r bêl yn bell i ffwrdd – ac mae ’na floedd sarcastig gan y dorf wrth weld y dyfarnwr yn mynd i’w boced.
21.04: George Williams yn gadael y maes rwan, gyda Dave Edwards yn dod ymlaen o gryfhau’r canol cae. 58 munud ar y cloc.
20.59: Y dorf ar bigau’r drain rŵan ar ôl y gerdyn goch yna, ond o’r diwedd yn codi’u llais i geisio annog y tîm.
Eilyddion gan gynnwys Dave Edwards yn cynhesu ar yr ystlys o’n blaen, ond mae Bale wedi symud nôl i ganol cae am rwan wrth i ni weld a fydd Coleman yn newid pethau.
20.53: Cerdyn goch i Andy King, dau funud i mewn i’r hanner!
Y dorf yn lloerig, ond roedd hi reit o dan drwyn y dyfarnwr, ac o weld y sgrîn mae hi’n flêr gyda’r styds yn taro sawdl capten Cyprus Konstantinos Makridis. Dim bwriad, ond blêr gan King!
Cymru lawr i ddeg dyn am hanner cyfan, felly, ac mae Bale yn cael cerdyn melyn am brotestio.
20.50: AIL HANNER YN DECHRAU
20.48: Wel, ystadegyn annisgwyl i chi – fe gafodd Cyprus 55% o’r meddiant yn erbyn Cymru yn yr hanner cyntaf yna! Cymru wedi cael 11 ergyd ar y gôl o’i gymharu a thri Cyprus, fodd bynnag, felly ni sy’n bygwth.
Yng ngemau eraill ein grŵp, mae Bosnia dal 1-0 ar y blaen yn erbyn Gwlad Belg ac Israel yn curo Andorra 2-1 ar y cae plastig drybeilig yna.
20.43: Wel, hanner bach digon da i Gymru ar y cyfan felly, gyda dwy gôl yn hanner cynta’r hanner gan Cotterill a Robson-Kanu, a Bale a George Williams hefyd yn edrych yn beryglus.
Yn anffodus, mae’r gôl yna i Gyprus yn golygu mai gôl o fwlch yn unig sydd yna, felly fe fydd yn rhaid i Gymru fod yn wyliadwrus yn yr ail hanner yma. Fyddai ddim yn synnu i weld mwy o gardiau chwaith!
Ambell wobr yn cael ei ddosbarthu ar y cae yn ystod yr egwyl, ond mae llawer o’r cefnogwyr i’w weld wedi mynd am damaid i’w fwyta a thŷ bach mae’n debyg.
20.35: HANNER AMSER
Bale yn methu cyfle arall, yn y cwrt y tro hwn, ar ôl gwaith da gan Robson-Kanu a George Williams! Cic gornel, ond ddaw hi i ddim. Y chwib yn chwythu am yr egwyl.
20.31: Pedwar munud o amser ychwanegol ar ddiwedd y hanner cyntaf, oherwydd y tair gôl ac anaf Church.
20.26: Cerdyn melyn arall i Gyprus, Angelis Angeli’n troseddu yn erbyn George Williams.
A Bale yn agos o’r gic rydd! Arbediad gwych gan y golwr, cyn beniad Ledley gael ei glirio oddi ar y linell! Dim byd yn dod o’r gic gornel yn anffodus.
20.23: GÔL I GYPRUS! VINCENT LABAN (36′)!
Cyprus yn taro nôl o’r gic rydd yna, gyda Laban yn cyrlio’r bêl o’r ochr dde, gyda’i droed chwith, drwy’r dorf o chwaraewyr i gornel y rhwyd! Cic rydd gostus iawn roddodd Cotterill i ffwrdd felly.
20.20: Cerdyn melyn i Cotterill, mae’n dangor ei styds yn fanno. Blêr iawn …
20.18: Cymru’n edrych yn hynod o gyfforddus ar hyd o bryd … ond rhywfaint o newyddion drwg yn un o gemau eraill y grŵp, ella, wrth i Fosnia fynd 1-0 ar y blaen yn erbyn Gwlad Belg.
Dw i’n gwybod eich bod chi i gyd hefyd yn ysu i wybod pryd sgoriodd Robson-Kanu’i unig gôl arall i Gymru, wel … yn eira Glasgow 18 mis yn ôl i gipio buddugoliaeth o 2-1 yn erbyn yr Alban.
20.10: GÔL I GYMRU! HAL ROBSON-KANU (23′)!
Ail gôl i Gymru! Chester yn chwarae hi i Bale yng nghanol cae, yntau’n rhoi flic bach, ac yn sydyn mae Robson-Kanu drwyddo ar y gôl gyda dim ond y golwr o’i flaen – dim camgymeriad gan ymosodwr Reading!
20.07: Ma’ golwr Cyprus, Tasos Kissas, yn edrych yn doji hyd yn hyn. Ail ddewis ydi o mae’n debyg, gyda’r boi dewis cyntaf ar y fainc gydag ychydig o anaf.
20.04: 18 munud ar y cloc felly, ac mae’r nerfau wedi setlo yma yn Stadiwm Dinas Caerdydd wrth i Gymru fynd ar y blaen yn erbyn Cyprus.
Honno yw ail gôl Cotterill i Gymru, ar ôl sgorio yn erbyn Lwcsembwrg yn 2010.
19.59: GÔL I GYMRU! DAVID COTTERILL (14′)!
Y bêl o’r gornel yn cael ei chlirio nôl i Cotterill ar yr ystlys chwith, ag yntau’n chwipio’r bêl nôl mewn – neb yn ei chyrraedd hi, ond mae’n mynd heibio i bawb a chanfod cornel y rhwyd!
19.58: Y gêm yn tawelu rhywfaint ar ôl y dechrau cyffrous yna, ond mae newydd fethu cyfle, a nawr George Williams wedi ennill cic gornel gyda rhediad wych.
19.52: Y gic rydd gan Bale yn mynd yn syth i ddwylo’g golwr fodd bynnag. Dechrau bywiog a dweud y lleia’!
19.51: Cerdyn felyn i Gyprus! Marious Nikolaou gyda thacl warthus ar Gareth Bale. Rhyw 30 llathen o’r gôl felly ychydig yn bell.
Ledley’n cael cerdyn melyn am y ffradach ddilynodd … nawr, pum munud i mewn, mae David Cotterill yn dod ymlaen am Church. Robson-Kanu i arwain yr ymosod?
19.48: Simon Church lawr ar y llawr yn barod ar ôl clec i’w gefn yn y munud cyntaf – cic rydd ond dim cerdyn. Dydi o dal heb godi …
19.46: CIC GYNTAF
19.45: Y gêm ar fin cychwyn rwan – beth ’da chi’n ei deimlo am y gêm felly? Oes gennych chi ffydd yn y tîm sydd wedi’i ddewis i herio Cyprus heno?
19.43: Sŵn da iawn chwarae teg, wrth i Hen Wlad Fy Nhadau gael ei bloeddio allan gan y dorf.
Dydi’r Canton heb gael digon chwaith – maen nhw wedi dechrau ar Men of Harlech yn syth!
19.41: Yr anthemau ar fin dechrau …
19.34: Dim trafferthion o ran cefnogwyr yn mynd i mewn i’r stadiwm heno, yn wahanol i gêm Bosnia nos Wener (ond mae tipyn llai yma i fod yn deg).
Stadiwm Dinas Caerdydd yn llenwi rwan, gyda llai na cwarter awr tan y gic gyntaf.
19.16: Y dyfarnwr heno, gyda llaw, ydi Manuel Grafe o’r Almaen. Gobeithio y gwnaiff o edrych ar ôl Bale a’n Williams bach ni’n well na wnaeth y gŵr o Rwsia nos Wener!
19.12: Cymru ydi’r ffefrynnau heno wrth gwrs, ac mi allwch chi ddarllen ein rhagolwg lawn o’r gêm heno wrth ddilyn y linc.
Er hynny, mae’n werth nodi bod gan Gyprus record dda yn ein herbyn ni yn ddiweddar – maen nhw wedi ennill dwy a cholli un yn erbyn Cymru yng nghyfnod John Toshack.
18.55: Mae Cyprus yn chwarae system 4-5-1 digon tebyg i Gymru heno, yn ôl y daflen gyda’r timau – bydd angen bod yn wyliadwrus o’r ymosodwr Dimitris Christofi, a sgoriodd ddwy gôl yn erbyn Bosnia’n gynharach yn y grŵp.
18.50: Wel wel, diddorol – mae Coleman wedi mynd nôl i chwarae pedwar yn y cefn a phump yng nghanol cae, gyda George Williams a Hal Robson-Kanu’n dod i mewn am Jonny Williams a Ben Davies.
Diddorol gweld hefyd fod Joniesta wedi’i enwi ar y fainc, er gwaetha’r ffaith bod Coleman wedi dweud na fyddai’n holliach am y gêm.
18.49: Tîm Cyprus: Kissas, Dossa Junior, Merkis, Kyriakou, Christofi, Makridis, Laban, Antoniades, Efrem, Sotiriou, Nikolaou
18.47: Tîm Cymru v Cyprus: Hennessey, Gunter, A Williams, Chester, Taylor, King, Ledley, Robson-Kanu, G Williams, Bale, Church
Mainc Cymru: OF Williams, Letheren, Davies, D Edwards, Cotterill, Gabbidon, J Williams, Lawrence, Ricketts, G Edwards, Taylor, John
18.43: Mae disgwyl i’r ddau dîm gyhoeddi’u timau yn y munudau nesaf, ac fe fydd Cymru’n newid o leiaf un chwaraewr ar ôl i Jonathan Williams gael ei anafu yn erbyn Bosnia.
Y cwestiwn ydi, pwy mae Coleman yn ffansi i gymryd ei le? Ac ydi o am gadw efo’r pump/tri yn y cefn?
18.37: Noswaith dda, a chroeso i flog byw golwg360 o Stadiwm Dinas Caerdydd, ble bydd Cymru’n herio Cyprus heno.
Iolo Cheung sydd yma gyda chi heno, gyda’r diweddaraf o drydydd gêm ragbrofol Ewro 2016 wrth iddyn nhw geisio aros ar frig y grŵp.
Mae ychydig dros awr nes y gic gyntaf am 19.45yh, ond mae llawer o gefnogwyr eisoes wedi cyrraedd ac mae digon o gyrn i’w clywed y tu allan i’r stadiwm.