Chris Coleman
Fe fydd Cymru’n aros ar frig eu grŵp rhagbrofol Ewro 2016 gyda buddugoliaeth yn erbyn Cyprus heno’n Stadiwm Dinas Caerdydd.
Mae 15,000 o docynnau eisoes wedi’u gwerthu am y gêm, gyda’r gobaith y bydd gwerthiant ychwanegol heddiw’n mynd a’r dorf yn agosach i 20,000.
Bydd tîm Chris Coleman yn gwybod mai dim ond tri phwynt wnaiff y tro, wedi iddyn nhw frwydro i gael gêm gyfartal yn erbyn Bosnia nos Wener.
Petai Cymru’n ennill fe fyddan nhw ar saith pwynt o’u tair gêm gyntaf, ac mewn safle addawol iawn wrth deithio i Wlad Belg ar gyfer y gêm ragbrofol nesaf ym mis Tachwedd.
Ac fe allwch ddilyn y cyfan ar Flog Byw Golwg360, fydd yn dod â’r diweddaraf i chi o Stadiwm Dinas Caerdydd drwy gydol y gêm.
Effaith anafiadau
Dim ond un anaf ychwanegol sydd gan Gymru ers y gêm yn erbyn Bosnia, gyda Jonathan Williams yn methu’r gêm oherwydd clec a gafodd i’w ffêr yn erbyn y Bosniaid.
Dyw’r un o chwaraewyr eraill Cymru sydd wedi’u hanafu, gan gynnwys Aaron Ramsey, Joe Allen ac Emyr Huws, am fod yn holliach mewn pryd chwaith.
Ond mae gan Gyprus broblemau anafiadau eu hunain, gydag amheuon dros ffitrwydd George Efrem, Stathis Aloneftis, a’u golwr Antonis Giorgiallides.
Mae carfan y gwrthwynebwyr eisoes yn methu’r cefnwyr Elias Charalambous, Giorgios Vasiliou a Jason Demetriou, a’r ymosodwr Nestor Mytides.
Fe gollodd Cyprus gartref 2-1 i Israel nos Wener cyn teithio draw i Gymru, ac oherwydd y siwrne hir honno mae rheolwr Cyprus yn cyfaddef y bydd ei dîm yn wynebu her.
“Mae’n rhaid i ni wynebu tîm cryf a phrofiadol, gyda chwaraewyr o’r safon uchaf sy’n chwarae i glybiau mawr Ewrop,” meddai Pambos Christodoulou.
Ond dyw rheolwr Cymru Chris Coleman ddim yn credu y bydd hi’n fuddugoliaeth hawdd i Gymru chwaith.
“Bydd e’n anodd, fydd Cyprus ddim yn dod yma a gwneud pethau’n hawdd i ni,” mynnodd Coleman.
Record gymysg
Record digon cymysg sydd gan Gymru yn erbyn y gwrthwynebwyr heno, ar ôl colli 3-1 yn Nicosia yn 2007 y tro diwethaf iddyn nhw chwarae Cyprus, a James Collins yn sgorio unig gôl y Cymry.
Fe enillon nhw 3-1 yn 2006 y tro diwethaf iddyn nhw chwarae Cyprus yng Nghaerdydd, pan wyliodd torf o 20,000 y tîm yn Stadiwm y Mileniwm yn cipio tri phwynt diolch i goliau gan Jason Koumas, Robert Earnhsaw a Craig Bellamy.
Yr unig dro arall diweddar iddyn nhw chwarae’i gilydd oedd nôl yn 2005, pan gollodd Cymru 1-0 draw yn Limassol, gyda Chymru hefyd yn ennill dwy gêm yn eu herbyn ar ddechrau’r 1990au.
Bydd Cymru’n ffefrynnau clir heno, fodd bynnag, a hwythau’n 29ain rhestr detholiadau’r byd o’i gymharu â Cyprus sy’n 85ed.
Fe fydd yn rhaid i dîm Coleman fod yn wyliadwrus, fodd bynnag, ar ôl i Gyprus synnu Bosnia yn eu gêm agoriadol wrth ennill 2-1 oddi cartref diolch i ddwy gôl wrthymosodol gan Dimitris Christofi.
Mae’n bosib hefyd y bydd Coleman yn newid siâp ei dîm ar gyfer y gêm heno, gan fynd yn ôl i’r system 4-2-3-1 yn hytrach na’r 5-3-2 a chwaraeodd yn erbyn Bosnia.
Fe allai hynny olygu bod Dave Edwards, Hal Robson-Kanu neu George Williams yn dod i mewn i’r tîm yn lle Jonathan Williams.