Leigh Halfpenny
Dechreuodd Leigh Halfpenny am y tro cyntaf i Toulon dros y penwythnos, ar ôl i anaf ei gadw allan o’r tîm am wythnosau cyntaf y tymor.
Yn anffodus iddo ef, er gwaethaf gwaith da ganddo ar adegau wrth amddiffyn, colli 21-10 oedd hanes ei dîm i Toulouse.
Fe chwaraeodd Jonathan Davies gêm lawn hefyd wrth i Clermont sicrhau buddugoliaeth gyfforddus o 30-10 dros La Rochelle yn y Top 14.
Collodd Racing Metro unwaith eto, y tro hwn i Stade Francais o 23-19, a Mike Phillips eto oedd yr unig Gymro i ymddangos oddi ar y fainc.
Ac fe ddaeth Kieran Murphy oddi ar y fainc i Brive wrth iddyn nhw golli 26-25 yn erbyn Grenoble.
Draw yn Lloegr ac fe arhosodd Northampton ar frig y gynghrair gyda buddugoliaeth gyfforddus o 43-10 dros Sale.
Ar y fainc yn unig oedd George North, fodd bynnag, wrth i’w dîm ennill yn erbyn criw Marc Jones, Eifion Lewis-Roberts a Jonathan Mills.
Mae’r Saracens yn ail o hyd ar ôl trechu Caerloyw 28-21, gyda Rhys Gill ar fainc y tîm buddugol y tro hwn yn erbyn James Hook a Richard Hibbard.
Sicrhaodd Caerwysg fuddugoliaeth gyfforddus hefyd 0 44-24 dros Wyddelod Llundain, er i Andy Fenby sgorio cais i’r ymwelwyr, gyda Phil Dollman a Tom James yn cael rheswm i ddathlu.
Llwyddodd tîm Wasps Bradley Davies a John Yapp gael y gorau o Gaerfaddon o 29-22, ble roedd Gavin Henson a Paul James yn dechrau unwaith yn rhagor gyda Dominic Day ar y fainc.
Fe enillodd Caerlŷr am y tro cyntaf mewn pedair gêm diolch i gicio cywrain Owen Williams, a drosodd gais a phum cic gosb i drechu Harlequins 22-16.
Ac i orffen ein cip wythnosol ar y Cymry oddi Cartref, dim syndod o weld Cymry Llundain yn colli eto gyda Newcastle yn fuddugol o 23-3 y tro hwn.
Dechreuodd James Down a Nic Reynolds i Gymry Llundain unwaith eto, gyda Rob Lewis ar y fainc.
Seren yr wythnos – Owen Williams. Da’i weld yn cael perfformiad da ar ôl ychydig o wythnosau siomedig i Gaerlŷr.
Siom yr wythnos – Leigh Halfpenny. Siom nad oedd ei dîm wedi llwyddo i ennill yn ei gêm gyntaf, yn enwedig o gofio’r pwysau mae Halfpenny wedi siarad amdano yn Toulon.