Gareth Bale yn ymarfer yr wythnos diwethaf (llun: CBDC)
Mae Gareth Bale wedi datblygu i fod yn un o brif arweinwyr yr ystafell newid yn ogystal â seren ddisgleiriaf tîm Cymru, yn ôl y rheolwr Chris Coleman.

Ar ôl chwiban olaf y gêm gyfartal yn erbyn Bosnia nos Wener fe ymgasglodd chwaraewyr Cymru ar y cae i gael sgwrs ymysg ei gilydd, cyn troi i ddiolch i’r dorf o 33,000 am eu cefnogaeth.

Ond yn ôl capten y tîm Ashley Williams, syniad Bale ac nid ef oedd gwneud hynny’n syth ar ôl y gêm.

Mae’n brawf bellach, yn ôl Coleman, fod y garfan hyd yn oed yn agosach nawr wrth iddyn nhw baratoi i herio Cyprus heno, a bod seren Real Madrid yn ganolog i hynny.

“Mae wedi aeddfedu ac yn lleisio’i farn yn amlach, mae’n arweinydd i ni nawr,” meddai Coleman am Bale.

“Mae wedi cael blwyddyn o dan y chwyddwydr [yn Real] ble mae dan sylw bob dydd, ond mae wedi tyfu oherwydd hynny.”

Gwerthfawrogi’r gefnogaeth

Bu nifer o chwaraewyr Cymru’n clodfori’r gefnogaeth nos Wener yng ngêm Bosnia, gan ddweud mai honno oedd y dorf gartref orau iddyn nhw chwarae o’i blaen erioed i’r tîm cenedlaethol.

Ac roedd hi’n bwysig fod y chwaraewyr yn cydnabod hynny ar ôl iddyn nhw ymgasglu ar y cae ar ddiwedd y gêm, yn ôl Ashley Williams.

“Ar ôl y gêm fe ddywedodd Gareth ‘beth am gael huddle’, ac fe ddywedais i ‘ie’,” meddai Williams.

“Roedden ni’n teimlo’i fod yn foment i ni ar ôl y gêm, gweld pawb wedi blino ac wedi ymlâdd, fe gawson ni bwynt allan ohono a chwarae’n dda.

“Fe ddywedon ni y dylwn ni ddangos ein gwerthfawrogiad i’r cefnogwyr am bopeth y gwnaethon nhw’r noson yna.”

Gweddïo am gyfle

Bydd Ashley Williams hefyd yn gweddïo am gyfle arall yn erbyn Cyprus ar ôl iddo fethu cyfle hwyr euraidd i gipio’r fuddugoliaeth yn erbyn Bosnia.

Er mai amddiffynnwr yw e, mae’n cyfaddef nad oedd esgus am fethu’r peniad syml.

“Roedd rhaid i mi weld e nôl yn syth [ar y fideo],” meddai’r capten. “Dych chi’n gweddïo am gôl arall ar ôl hynny, i rywun arall sgorio, ond yn anffodus wnaethon nhw ddim.

“Fe geisiodd Ben [Davies] ddweud wrtha i nad fy swydd i oedd sgorio, ond pan gewch chi gyfle fel ‘na mae e mewn gwirionedd.

“Fi jyst yn gobeithio os gai gyfle fel ‘na eto nos Lun y gwnâi ei chymryd hi.”

Er iddo fethu’r cyfle hwyr yna, mae Coleman yn gwerthfawrogi cael cymeriad fel Williams yn ei garfan – rhywun, meddai’r rheolwr, sydd yn gwerthfawrogi’i yrfa bêl-droed am ei fod wedi gweld bywyd go iawn.

“Mae Ashley Williams wedi gweld bywyd go iawn – dyw pêl-droed ddim fel bywyd go-iawn, mae popeth wedi’i swatio mewn gwlân cotwm, chwaraewyr ifanc yn cael popeth ar blât,” meddai Coleman.

“Roedd gan Ashley swydd pan oedd yn ieuengach, mae’n gwybod beth yw bywyd, a dyna pam mae’n gwerthfawrogi chwarae pêl-droed.”

Paratoi am Gyprus

Mae gan Chris Coleman ambell benbleth ynglŷn â’i dîm cyn y gêm heno, gyda Jonathan Williams eisoes allan o’r tîm oherwydd anaf.

Mae’n golygu y gallai Hal Robson-Kanu, George Williams neu Dave Edwards ddod i mewn yn ei le – er bod Coleman yn cydnabod nad yw rhai o’r rheiny wedi bod yn chwarae’n ddigon cyson i’w clybiau i fod yn ffit ar gyfer gêm 90 munud.

Ac mae Coleman yn disgwyl her anodd gan y gwrthwynebwyr heno, ar ôl i Gyprus brofi eu bod nhw’n gallu creu sioc wrth drechu Bosnia yn eu gêm agoriadol.

“Dw i’n meddwl y bydd pob un o chwaraewyr Cyprus yn broblem, mae gennych chi grŵp angerddol o chwaraewyr,” meddai Coleman pan ofynnwyd iddo pwy oedd bygythiadau mwyaf y gwrthwynebwyr.

“Fe allwch chi eistedd yn ôl a gwrthymosod, neu ddod am y tri phwynt. Fe fyddwn ni’n barod am hyn, dw i heb fanylu ar yr un o’ch chwaraewyr chi’n benodol.

“Wedi dweud hynny, dyna ddywedodd rheolwr Bosnia am Gareth Bale!”

Gallwch ddilyn y gêm heno rhwng Cymru a Chyprus yn fyw ar Flog Byw Golwg360, gyda’r gic gyntaf am 7.45yh.