Rheolwr a chwaraewr Cyprus, Pambos Christodoulou a Marios Nikolaou
Mae rheolwr Cyprus wedi mynnu fod Cymru’n “dîm cryf iawn” wrth i’w dîm baratoi i ymweld â Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer y gêm ragbrofol Ewro 2016 heno.

Cyfaddefodd Pambos Christodoulou y byddai’n fodlon â gêm gyfartal yn erbyn Cymru, gan ddisgrifio’r tîm cartref fel ffefrynnau.

Serch hynny – yn debyg i reolwr Bosnia cyn gêm nos Wener – fe fynnodd na fyddai’i dîm yn canolbwyntio’n ormodol ar Gareth Bale.

Fe fydd Cymru’n gobeithio am dri phwynt arall yn erbyn Cyprus fyddai’n eu cadw ar frig Grŵp B ar ôl y tair gêm gyntaf.

Does dim anafiadau ffres gan Gymru ar ôl herio Bosnia nos Wener heblaw am y chwaraewr canol cae Jonathan Williams.

Chwaraewyr o’r safon uchaf

Oherwydd hynny, mae rheolwr Cyprus yn mynnu fod her fawr yn wynebu’i dîm heno.

“Mae’n rhaid i ni wynebu tîm cryf a phrofiadol, gyda chwaraewyr o’r safon uchaf sy’n chwarae i glybiau mawr Ewrop,” mynnodd Pambos Christodoulou.

“Mae Cymru’n dîm cryf, ac i dîm fel Cyprus does dim gemau hawdd, gartref neu i ffwrdd. Rydyn ni’n gwybod pwy ydyn ni, rydyn ni’n gwybod beth yw’n gallu, ac fe geisiwn ni roi’n gorau ar gyfer canlyniad.

Roedd chwaraewr canol cae Cyprus, Marios Nikolaou, yn rhannu’r farn honno.

“Rydyn ni’n gwybod pa fath o dîm fyddwn ni’n wynebu, tîm cryf â chwaraewyr da,” ychwanegodd Nikolaou.

Taith bell

Roedd gan Cyprus gêm nos Wener hefyd, gan golli gartref 2-1 i Israel, ac oherwydd y daith hir i Gymru a chryfder y gwrthwynebwyr fe gyfaddefodd Christodoulou y byddai’n fodlon â phwynt o’r gêm heno.

“Fe gawson ni siwrne hir a blinedig ar gyfer y gêm, doedd dim rhaid i Gymru deithio ac mae hyn efallai’n rhoi mantais iddyn nhw,” meddai rheolwr Cyprus.

“O ystyried ein gemau heriol hyd yn hyn gyda Bosnia, Israel a nawr Cymru i ffwrdd, fyddai pwynt ddim yn ddrwg i’n tîm ni.”

Dywedodd Christodoulou hefyd fod rheolwr Cymru Chris Coleman yn cael y gorau o’i dîm, gan gynnwys sêr fel Gareth Bale.

“Wrth gwrs fod Bale yn chwaraewr gwych, rydyn ni’n gwybod y bydd rhaid bod yn ofalus ohono ef,” meddai. “Mae’n gallu ennill gêm ar ei ben ei hun.

“Ond dydyn ni ddim jyst yn chwarae yn erbyn Bale, rydyn ni’n chwarae yn erbyn tîm Cymru i gyd, sy’n dîm da. Dw i’n meddwl fod rheolwr Cymru’n gwneud gwaith da iawn.

“Efallai nad yw Cymru’n enw mawr iawn mewn pêl-droed Ewropeaidd ond maen nhw’n dîm da a chryf.”