Tony Blair
Fe allai’r cyn Brif Weinidog Tony Blair a’i wraig Cherie fod wedi cael eu targedu gan frawychwyr, clywodd llys heddiw.

Roedd gan Erol Incedal gyfeiriad ar gyfer un o gartrefi Tony a Cherie Blair pan gafodd ei stopio yn ei gar gan yr heddlu, clywodd y rheithgor yn yr Old Bailey.

Wrth agor yr achos, dywedodd Richard Whittam QC ar ran yr erlyniad, y gallai Incedal fod wedi bod yn cynllwynio ymosodiad tebyg i gyflafan Mumbai yn 2008.

Mae disgwyl i rannau o’r achos gael eu clywed y tu ôl i ddrysau caeedig.

Mae Indecal wedi’i gyhuddo o gynllwynio gweithredoedd brawychiaeth ac o fod a dogfen yn ei feddiant gyda’r teitl ‘Bomb Making’.

Mae Indecal, 26 oed, yn gwadu’r cyhuddiadau.