Ched Evans
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd wedi ymuno yn y feirniadaeth o’r cyflwynydd teledu Judy Finnigan, a wnaeth sylwadau dadleuol am achos treisio Ched Evans.

Wrth siarad am y pêl-droediwr, a gafwyd yn euog o dreisio merch mewn gwesty yn Y Rhyl yn 2012, dywedodd Judy Finnigan nad oedd ei drosedd yn un “treisgar” ac nad oedd o wedi achosi “niwed corfforol”.

Dywedodd hefyd fod y ferch 19 mlwydd oed a gafodd ei threisio gan Ched Evans wedi cael “llawer gormod i yfed” cyn yr ymosodiad “annymunol” mewn gwesty.

Mae disgwyl i gyn ymosodwr Cymru a Sheffield United gael ei ryddhau o’r carchar yn fuan, ac mae dadleuon wedi bod ynglŷn â chaniatáu iddo chwarae pêl-droed proffesiynol eto. Roedd Judy Finnigan yn cymryd rhan yn y rhaglen Loose Women oedd yn trafod y pwnc.

‘Difetha bywydau’

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Northumbria, Vera Baird, sy’n ymgyrchu yn erbyn trais yn erbyn menywod, wedi beirniadu sylwadau Judy Finnigan gan ddweud bod treisio yn “anaf difrifol ac yn andwyo rhai pobl am oes.”

Meddai: “Ymddengys fod Ms Finnigan eisoes wedi anghofio tystiolaeth dioddefwyr Rolf Harris, ac eraill, sydd wedi dweud yn fanwl yn eu datganiadau am sut mae eu bywydau wedi cael eu difetha.”

Mewn datganiad dywedodd Judy Finnigan ei bod yn ymddiheuro’n daer am ei sylwadau.

Meddai: “Doeddwn i ddim yn awgrymu nad oedd trais rhywiol yn drosedd erchyll ac, fel y dywedais ar y rhaglen, doeddwn i ddim mewn unrhyw ffordd yn ceisio lleihau’r profiad ofnadwy mae unrhyw ddynes yn dioddef o ganlyniad.”