Huw Stephens
Mae’r rhestr fer ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Cymru 213-14 wedi cael ei chyhoeddi heddiw.

Nod y wobr yw hyrwyddo a chydnabod cerddoriaeth wreiddiol orau Cymru ac mae deuddeg albwm ar y rhestr fer eleni.

Y DJ Huw Stephens, o BBC Radio 1, a’r hyrwyddwr cerddoriaeth John Rostron sy’n cynnal y wobr ar ôl ei sefydlu nôl yn 2011.

Dyma restr lawn o’r artistiaid a’r albymau fydd yn mynd benben am y wobr:
 9 Bach – Tincian;
 Cate Le Bon – Mug Museum;
 Euros Childs – Situation Comedy;
 Future of the Left – How To Stop Your Brain In An Accident;
 Gruff Rhys – American Interior;
 Gulp – Season Sun;
 Joanna Gruesome – Weird Sister;
 Manic Street Preachers – Futurology;
 Samoans – Rescue;
 Slowly Rolling Camera – Slowly Rolling Camera;
 The Gentle Good – Y Bardd Anfarwol;
 The People The Poet – The Narrator.

‘Pleser’

Wrth son am y rhestr, dywedodd John Rostron, sydd hefyd yn cynnal Gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd gyda Huw Stephens:
“Mae gymaint o gerddoriaeth wych yn cael ei greu yng Nghymru ac mae’n bleser bod y Wobr Gerddoriaeth Gymraeg yn amlygu’r deuddeg albwm yma.”

Ychwanegodd Huw Stephens: “Y panel ar-lein oedd yn gyfrifol am y rhestr ac mae sawl albwm gwych sydd heb ei gwneud hi eleni. Ond mae’r rhai sydd yma i gyd yn wych ac fe fyddwn i’n annog pawb i wrando arnyn nhw.”

Ar nos Wener, 28 Tachwedd, fydd y noson wobrwyo’n cael ei chynnal, a’r panel a fydd yn dewis yr enillydd fydd Helen Weatherhead (BBC 6Music), Owain Schiavone (Y Selar) a David Wrench (Cynhyrchydd).

Mae enillwyr blaenorol yn cynnwys Georgia Ruth am ei halbwm Week of Pines (2012-13), Gruff Rhys am Hotel Shampoo (2010-11) a Future of the Left am The Plot Against Common Sense (2011-12).