Enlli Parri
Y ddawnswraig Enlli Parri o Gaerdydd a gipiodd Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2014 a gwobr o £4,000 neithiwr.

Yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth nos Sul, cafodd ei gwobrwyo gan y pum beirniad am ei chyfuniad o glocsio a’i pherfformiad ar y ffliwt.

Mae Enlli Parri yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Plas Mawr, Caerdydd a hi yw’r ail ddisgybl o’r ysgol i ennill yr ysgoloriaeth. Fe enillodd Lowri Walton yn 2005 am ei dawnsio gwerin.

Meddai Enlli Parri: “Ges i gymaint o sioc pan wnaethon nhw gyhoeddi fy enw i – o’n i ffili credu’r peth! Dwi wedi bod yn paratoi ar gyfer yr Ysgoloriaeth ers peth amser, a hoffwn ddiolch i Gapel Minnie Street am gael defnyddio eu festri er mwyn cael digon o ofod i ymarfer.”

Chwech o bobol ifanc rhwng 19-25 oed oedd yn cystadlu am yr ysgoloriaeth eleni, wedi iddyn nhw ddod i’r brig ym mhrif gystadlaethau Eisteddfod yr Urdd.

Y beirniaid oedd Eirlys Britten, Cefin Roberts, Gwyn L Williams, Eirian Owen a Dafydd Huw.

Astudiaethau

Mae Enlli Parri wedi dechrau ar gwrs yng ngholeg y Guildhall yn Llundain, yn astudio’r ffliwt. Dywedodd y bydd y wobr yn “help anferthol” iddi barhau gyda’i gyrfa:

“Rydw i am ddefnyddio’r arian i ddatblygu fy sgiliau fel cerddor gan fy mod newydd gychwyn cwrs yn Llundain yn astudio’r ffliwt. Dwi wedi bod yn paratoi ar gyfer yr Ysgoloriaeth ers peth amser, a hoffwn ddiolch i Gapel Minnie Street am gael defnyddio eu festri er mwyn cael digon o ofod i ymarfer.

“Byddaf yn parhau i ddawnsio, ond mae hynny yn bennaf fel pleser.”

‘Amryw o sgiliau’

Wrth siarad am berfformiadau’r noson, dywedodd un o’r beirniaid, yr actor a’r cerddor Cefin Roberts: “Mi oeddem ni fel panel yn hapus iawn gyda’r chwech berfformiodd heno, ac roedd y safon yn uchel iawn.

“Mi fu cryn drafod, ac roedd yn agos iawn, ond roedd pawb yn gytûn yn y diwedd mai Enlli oedd yn haeddu ennill.

“Rhoddodd perfformiad arbennig iawn gan gyfathrebu yn wych gyda’r gynulleidfa o ystyried ei bod mor ifanc. Roedd i weld wedi ymlacio wrth berfformio ac yn mwynhau ei hun. Ei chryfder mwyaf oedd bod ganddi amryw o sgiliau ond yn gallu cyrraedd a chyffwrdd pawb yn y gynulleidfa i’r sedd gefn un.”

‘Safon uchel’

Ychwanegodd Aled Siôn Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, “Cawsom noson wych yng Nghanolfan y Celfyddydau nos Sul, ac mae’r safon a welwyd yn brawf o’r hyn a welwn yn flynyddol ar lwyfan cenedlaethol yr Urdd.

“Rwyf yn hyderus y bydd yr ysgoloriaeth hon yn rhoi hwb werthfawr i yrfa berfformio Enlli ac edrychaf ymlaen at glywed beth fydd ei hanes yn y dyfodol.”