Banc Lloegr
Mae Banc Lloegr wedi cyhoeddi mai 0.5% yw’r gyfradd llog o hyd, ac mae pryderon bod yr adfywiad economaidd wedi arafu bellach.

Ond mae Llywodraethwr y Banc Mark Carney yn ffyddiog bod adfywiad ar ddod, yn dilyn pum mlynedd o ansicrwydd a lefel isel o fenthyg.

Mae ffigurau allforio a masnachu a gafodd eu cyhoeddi heddiw yn awgrymu bod twf wedi arafu yn ystod y trydydd chwarter, ac mae’r Siambr Fasnach yn rhybuddio bod hynny’n arwydd negyddol.

Mae lefel chwyddiant – 1.5% – yn un o’r ffactorau sydd wedi dylanwadu ar benderfyniad Banc Lloegr i beidio newid y gyfradd llog ar hyn o bryd.

Yn y farchnad dai, mae’n ymddangos bod y cynnydd mewn prisiau tai wedi dechrau arafu hefyd, ac roedd awgrym yr wythnos diwethaf y gallai prisiau ostwng yn sylweddol y flwyddyn nesaf.

Mae disgwyl i gyfraddau llog godi fis Chwefror nesaf, ond mae rhai arbenigwyr wedi rhagdybio y gallai godi mor fuan â mis nesaf mewn pryd ar gyfer adroddiad chwyddiant Banc Lloegr.

Cododd GDP i 0.9% yn ystod yr ail chwarter ond mae disgwyl iddo fod wedi arafu yn ystod ail hanner y flwyddyn eleni.