Max Clifford
Mae’r Llys Apêl wedi penderfynu gohirio penderfyniad ynghylch dedfryd Max Clifford, gan ddweud bod angen rhagor o amser arnyn nhw i drafod yr achos.
Cafodd ei garcharu am wyth mlynedd ym mis Mai wedi i lys ei ganfod yn euog o ymosod yn anweddus ar ferched rhwng 1977 a 1984.
Roedd Clifford yn gwylio’r achos heddiw trwy gyswllt fideo o’r carchar yn Swydd Gaergrawnt.
Roedd Clifford wedi gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn, ond cafwyd e’n euog yn Llys y Goron Southwark.
Clywodd y llys ei fod wedi defnyddio’i statws i ddenu sylw merched diniwed.
Wedi iddo glywed dadleuon gan y ddwy ochr heddiw, dywedodd y barnwr yr Arglwydd Ustus Treacy nad oedden nhw’n barod i wneud penderfyniad am y ddedfryd ar unwaith.
Doedd y barnwr ddim wedi datgelu pryd y byddai’r penderfyniad yn cael ei wneud.
Tra bod yr erlyniad yn cytuno â’r ddedfryd, dywedodd cyfreithwyr ar ran yr amddiffyniad fod angen gwneud penderfyniad ar sail synnwyr cyffredin a thegwch, er bod angen ystyried barn y cyhoedd hefyd.