Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio i achosion o Hepatitis A ymhlith tri o blant ysgol yng Nghaerdydd.

Credir mai tri disgybl o dair ysgol wahanol sydd wedi dal yr haint ac nid oes tystiolaeth fod rhagor o ddisgyblion wedi eu heintio ar hyn o bryd.

Mae tua 20 o bobl eraill fu mewn cysylltiad agos â’r unigolion wedi cael cynnig brechiadau.

Dywedodd ICC bod un o’r disgyblion wedi dal yr haint y tu allan i Brydain. Ychwanegodd Dr Gwen Lowe, ymgynghorydd ar reoli afiechydon heintus Iechyd Cyhoeddus Cymru, fod “pob cam wedi ei gymryd” i ddeilio hefo’r achosion ac i leihau’r risg i’r cyhoedd.

Mae symptomau Hepatitis A yn debyg i’r ffliw ac mae’n achosi salwch byrdymor lle mae person yn flinedig, yn taflu i fyny, yn cael poenau yn eu stumog, twymyn, ac yn teimlo’n benysgafn. Nid oes triniaeth benodol i’r haint ond mae pobol yn cael eu cynghori i fynd at eu meddyg teulu os oes ganddyn nhw symptomau.

Mae achosion o Hepatitis A yn brin yn y DU, gyda dim ond 13 o achosion yn cael eu cofnodi yng Nghymru yn 2012.