Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i lofruddiaeth dyn 76 oed yn Ninas Powys ger Caerdydd.

Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad fore ddoe yn dilyn adroddiadau o ffrae.

Cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae dyn 73 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae e yn y ddalfa.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu mai “digwyddiad unigol” yw hwn ond eu bod nhw’n “gwerthfawrogi ei fod wedi achosi pryder i drigolion Fairoaks”.

Dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â’r digwyddiad.