Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi mynnu heddiw ei fod yn “credu 100%” y gall Cymru drechu Bosnia-Herzegovina nos yfory, er gwaethaf rhagor o anafiadau yn y garfan a ddisgrifiodd fel “cenhedlaeth aur”.
Fe fynnodd Coleman hefyd ei fod yn canolbwyntio’n llwyr ar y gêm yn erbyn y Bosniaid – ac nad yw wedi ystyried mater Ched Evans o gwbl eto.
Cafodd carfan Cymru ergyd arall heddiw wrth i Emyr Huws orfod tynnu nôl, a hynny oherwydd anaf a gafodd mewn sesiwn ymarfer ddoe.
Mae’n gadael Coleman yn brin o opsiynau yng nghanol cae, gydag Joe Ledley Andy King a Dave Edwards yr unig rai ffit ar hyn o bryd.
‘Credu 100%’
Serch hynny mae’r rheolwr yn mynnu fod ganddo ffydd lwyr y gall ei dîm ennill nos fory, canlyniad fyddai’n eu rhoi nhw chwe phwynt o flaen Bosnia yn y grŵp.
“Dw i’n gwybod fod pobl yn siarad am y chwaraewyr sydd ar goll, ond rydw i’n credu 100% yn y garfan sydd gennym ni, a’r tîm fyddwn ni’n rhoi mas,” meddai Coleman yn y gynhadledd i’r wasg heddiw.
“Os oes rhaid i ni wneud newidiadau, rydyn ni [dal] yn ddigon da i gael canlyniad yn erbyn Bosnia, yn sicr.”
Ac mae’n dweud fod yna bwysau ar y gwrthwynebwyr i gael canlyniad hefyd.
“Fe gollon nhw’r gêm gyntaf [yn erbyn Cyprus] mewn gêm y gwnaethon nhw reoli’n llwyr a chael eu cosbi gyda dau wrthymosodiad,” meddai Coleman. “Mae’n rhaid iddyn nhw’n curo ni, achos mae ganddyn nhw Wlad Belg nesaf.”
Cyfle hanesyddol i’r genhedlaeth aur
Mae disgwyl y bydd Stadiwm Dinas Caerdydd bron yn llawn ar gyfer y gêm yn erbyn Bosnia nos Wener, torf fyddai’n torri record am y nifer sydd wedi gwylio Cymru yn y stadiwm.
Ac fe ddywedodd y rheolwr hefyd ei bod hi’n bryd i’r garfan yma gyrraedd disgwyliadau’r cefnogwyr, gan ddefnyddio’r term ‘cenhedlaeth aur’.
“Mae ganddyn nhw gyfle gwych i wireddu’r tag yna sydd wedi’i osod arnyn nhw o fod yn ‘genhedlaeth aur’,” cyfaddefodd Coleman.
“Fe ddwedai wrthoch chi, y genhedlaeth aur gyntaf yn fy marn i oedd y tîm Cymru gyntaf nes i chwarae ynddi.
“Nev [Neville Southall], Rushie [Ian Rush], Mark Hughes, Dean Saunders, Gary Speed, Ryan Giggs, dyna i chi dîm, roedd hwnna’n genhedlaeth aur a wnaethon ni ddim e.
“Mae’r bechgyn yma’n gwybod hynny, ond fe wnawn nhw lwyddo os ydyn nhw’n gwneud eu busnes.
“Ydyn nhw ddigon da? Ydyn, dw i’n meddwl eu bod nhw ddigon da i wneud rhywbeth dy’n ni erioed wedi’i wneud o’r blaen.
“Mae’n gyfle i ni greu hanes.”
Dim trafod am Ched
Fe fynnodd Coleman hefyd ei fod yn canolbwyntio’n llwyr ar gêm Bosnia ar hyn o bryd, ac nad oedd hyd yn oed yn meddwl am gêm Cyprus nos Lun eto – heb sôn am fater Ched Evans.
Mae disgwyl i Evans gael ei ryddhau o’r carchar yn ddiweddarach yn y mis ar ôl treulio dros ddwy flynedd dan glo am dreisio dynes yn y Rhyl yn 2011 oedd yn rhy feddw i allu rhoi caniatâd.
Cafodd ddedfryd o bum mlynedd yn y carchar yn 2012 am y drosedd, ond mae wastad wedi mynnu’i fod yn ddieuog a bod y ddynes wedi rhoi caniatâd iddo gael rhyw ag ef.
Heddiw fe ddywedodd pennaeth y Gymdeithas Pêl-droedwyr Proffesiynol, Gordon Taylor, y dylai Evans gael dychwelyd i chwarae’n broffesiynol ar ôl iddo gael ei ryddhau.
Yr wythnos diwethaf fe ddywedodd hyfforddwr Cymru Osian Roberts a Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru Trefor Lloyd Hughes nad oedd Coleman wedi cael unrhyw drafodaethau ynglŷn â dyfodol rhyngwladol Evans eto.
Ac fe ategodd Coleman hynny heddiw, gan ddweud nad oedd wedi meddwl am y peth eto.
“Dw i heb siarad am Ched Evans, mae’r stori yna wedi do o du allan i’n camp ni,” meddai Coleman heddiw.
“A phob parch i Ched a phawb sy’n ymwneud â hynny, dyw e ddim ar fy meddwl, dyw e ddim ar feddwl y chwaraewyr, dyw e ddim ar feddwl unrhyw un.
Mae Bosnia ar y llaw arall, ar flaen fy meddwl, a dyw hynny [meddwl am Ched Evans] ddim yn mynd i helpu ni gael canlyniad nos Wener.
“Dw i heb feddwl am y peth o gwbl.”