Mae seren ifanc Cymru, Emyr Huws wedi cyhoeddi ar ei dudalen Twitter na fydd e ar gael i chwarae i Gymru yn erbyn Bosnia a Herzegovina nos yfory.
Cafodd y chwaraewr canol cae ei anafu tra’n ymarfer ddoe, ac mae’n ychwanegu at gur pen Chris Coleman yng nghanol cae ar gyfer y ddwy gêm nesaf.
Ni fydd Huws ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Cyprus nos Lun chwaith, gan olygu mai Andy King, Joe Ledley a David Edwards yw’r unig chwaraewyr canol cae ar ôl yn y garfan.
“Fe gollon ni fe ddoe, jyst tacl ddiniwed, lwc sâl oedd o,” meddai rheolwr Cymru Chris Coleman heddiw. “Felly dy Emyr ddim ar gael, rydyn ni wedi gorfod ei anfon nôl i Wigan am sgan, mae’r ffêr wedi chwyddo ganddo.
“Mae’n siomedig, ond mae’n rhaid i ni gario ’mlaen.”
Chwech ar goll
Huws yw’r chweched chwaraewr canol cae i orfod tynnu nôl o’r garfan, gydag Aaron Ramsey, Joe Allen, David Vaughan, Andrew Crofts a Lee Evans hefyd yn absennol oherwydd anafiadau.
Ac er ei fod yn siomedig am y newyddion, fe fynnodd capten Cymru Ashley Williams heddiw fod chwaraewyr eraill yn barod i gamu mewn i’r bwlch.
“Mae’n anffodus, mae’n chwaraewr da, wedi gwneud yn dda i ni o’r blaen ac roedd e’n edrych yn dda wrth ymarfer,” meddai Ashley Williams.
“Ond mae’n rywbeth ry’n ni wedi arfer â bellach. Bydd rhywun arall yn gorfod camu mewn i wneud y job.”