Ben Davies ar ôl ennill gwobr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn Cymru 2014 (llun: CBDC)
Mae Ben Davies yn gobeithio y gall Cymru sicrhau canlyniad “arbennig” yn erbyn Bosnia-Herzegovina nos Wener, wrth iddi edrych yn debygol y bydd Stadiwm Dinas Caerdydd bron yn llawn ar gyfer y gêm.
Bydd Cymru’n herio’r Bosniaid nos yfory cyn chwarae Cyprus nos Lun, ac fe allwn nhw fod ar frig eu grŵp rhagbrofol Ewro 2016 ar ôl y ddwy gêm honno petai’r canlyniadau’n mynd o’u plaid.
Am y tro cyntaf ers 2009 mae Cymru hefyd yn cael y cyfle i chwarae o flaen eu cefnogwyr cartref ddwywaith o fewn dyddiau i’w gilydd.
Ac mae Davies yn ffyddiog y bydd y torfeydd yn parhau i ddod os all y tîm gael canlyniad da yn erbyn Bosnia.
“Mae gêm dydd Gwener siŵr o fod un o’r gemau mwya’ ni ‘di cael ers sbel,” meddai Davies. “Ac os allwn ni gael tri phwynt yn y gêm gyntaf bydd e’n grêt i ni fel carfan.
“Bydd e’n neis os ni’n gallu ennill y gemau, i gadw pobl i ddod,” ychwanegodd y cefnwr wrth golwg360. “Bydde fe’n deimlad arbennig i ni gael neud e o flaen ein torf ein hun.
Gallwch wrando i rywfaint o sylwadau Ben Davies isod – mae ei sylwadau’n llawn ar gael ar Ap Golwg yr wythnos hon:
Ffit ac yn barod
Dyw Davies ddim wedi cael yr amser gorau ers symud o Abertawe i Tottenham dros yr haf am ffi o rhyw £10m.
Roedd disgwyl iddo hawlio crys y cefnwr chwith wrth iddo gyrraedd White Hart Lane, ond hyd yn hyn mae Danny Rose wedi bod yn chwarae yn ei le, gyda Davies dim ond yn dechrau mewn gemau Cwpan Ewropa a Chwpan y Gynghrair.
Gyda Neil Taylor yn chwarae mor gyson i Abertawe yn yr un safle ar hyn o bryd, mae hynny wedi arwain rhai cefnogwyr i gwestiynu a yw Davies yn ddigon ffit i chwarae dwy gêm lawn i Gymru mewn pedwar diwrnod.
Ond mae’r cefnwr chwith yn mynnu na fydd hynny’n broblem, a’i fod yn barod i gymryd ei gyfle yn Spurs pan y daw.
“Os ro’n i’n chwarae dim ond yn yr Uwch Gynghrair bydden i’n chwarae 90 munud bob wythnos, felly dyna beth dw i’n neud ar y foment [gyda Spurs yn y cwpannau], a dw i’n teimlo’n ddigon ffit i neud hynna,” meddai Davies.
“Mae ymarfer gyda chwaraewyr sydd gan Spurs bob dydd yn sicr yn fy helpu, a phan gai’r cyfle i ddangos hynna ar y cae mi wnâi.
“Fi’n gweithio mor galed ag y gallai, a gobeithio bod yr amser yna ddim rhy bell i ffwrdd.”
Bygythiad Dzeko
Fe fydd pwy bynnag sydd yn chwarae’n amddiffyn Cymru nos Wener yn gorfod bod yn wyliadwrus o ymosodwyr peryglus Bosnia, gan gynnwys seren Man City Edin Dzeko.
Mae Davies a llawer o’r lleill yn gyfarwydd â chwarae yn ei erbyn yn yr Uwch Gynghrair eisoes, ond dyw hynny ddim yn golygu y gallwn nhw ymlacio wrth chwarae yn ei erbyn.
“Ma’ fe’n chwaraewr arbennig, ac un byddwn ni’n canolbwyntio i gadw fe mas,” meddai Davies.
Fe allai’r bygythiad ymosodol hwnnw olygu y gwelwn ni dactegau mwy amddiffynnol gan Coleman yn erbyn Bosnia, gyda mwy na phedwar amddiffynnwr ar y cae.
Yn erbyn Andorra yn y gêm agoriadol, fe chwaraeodd Coleman Davies fel y cefnwr chwith a Neil Taylor fel asgellwr o’i flaen.
Ond fe wadodd Davies fod hwnnw’n dacteg y mae Coleman wedi bwriadu’i ddefnyddio’n aml yn ystod yr ymgyrch i ddod.
“Na so ni ‘di siarad lot amdano fe,” cyfaddefodd Davies. “Ond yn y gêm ddiwethaf fi’n credu dyna oedd y peth i fynd mlaen gyda, ac yn y diwedd wnaeth e weithio i ni. Ond dw i’n oce i chwarae unrhyw safle ar y cae.”