Joe Ledley
Mae mwy o bwysau ar Gymru i gael canlyniadau nawr nag sydd wedi bod erioed ers iddo fod yn rhan o’r garfan, meddai’r chwaraewr canol cae Joe Ledley.

Fe fydd y crysau cochion yn herio Bosnia-Herzegovina nos Wener cyn chwarae Cyprus nos Lun, y ddwy gêm gartref a’r ddwy yn hanfodol ar gyfer gobeithion Cymru o gyrraedd Ewro 2016.

Er bod siarad wedi bod ers blynyddoedd mai ‘hon fydd yr ymgyrch’, y tro hwn mae Cymru wedi dechrau a buddugoliaeth ar ôl iddyn nhw drechu Andorra 2-1 fis diwethaf.

Bydd y dorf nos Wener yn debygol o dorri record ar gyfer y nifer sydd wedi gwylio Cymru’n chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae hynny’n brawf pellach i Ledley fod y disgwyliadau ar y tîm yn cynyddu, ond mae’n dweud fod gan y garfan bresennol yn barod am yr her.

Ysbryd dda

“Roedden ni’n isel yn y detholiadau ar un pwynt a doedd pethau ddim yn mynd ein ffordd ni, er bod gennym ni chwaraewyr talentog,” meddai Ledley o ddyddiau cynharach ei yrfa ryngwladol.

“Ond nawr mae gennym ni brofiad fel grŵp sydd wedi aros gyda’n gilydd ers nifer o flynyddoedd, felly mae’n grêt gweld ein bod ni’n gwneud pethau’n iawn ar y cae a pherfformio’n dda.

“Mae gennym ni garfan wych, nid yn unig o ran gallu ond o ran ysbryd y tîm, rydyn ni wastad eisiau cwrdd lan a gweld ein gilydd, a dyna beth ‘dych chi eisiau mewn carfan.”

Mwynhau’r pwysau

Fe fydd mwy o bwysau nag arfer ar Ledley ei hun nos Wener hefyd, gyda’r disgwyl y bydd chwaraewr canol cae Crystal Palace yn gorfod cymryd cyfrifoldeb ychwanegol yn sgil anafiadau Aaron Ramsey a Joe Allen.

Ond fe ddywedodd Ledley, sydd â dros hanner cant o gapiau dros Gymru bellach, fod ei gyfnod yn Celtic yn golygu ei fod wedi arfer yn llwyr â chwarae o dan bwysau cyson bellach.

“Mae Rambo a Joe yn ddau chwaraewr gwych, ond hon yw’r garfan gryfaf fi wedi gweld ers sbel,” mynnodd Ledley.

“Mae’n bwysau mawr, ac fel chwaraewyr dy’n ni heb gael hynny ers amser maith. Hon fydd [y gêm ryngwladol] fwyaf o fy ngyrfa, a thipyn o’r bechgyn eraill hefyd.

“Felly rydyn ni’n edrych ymlaen – fe fydd hi’n gêm gyffrous, rydyn ni’n gobeithio cael y tri phwynt, ond mae’n bwysau da i gael.”