Mae cadeirydd Clwb Pêl-droed Abertawe, Huw Jenkins wedi dweud ei fod yn disgwyl i rai o gemau’r Uwch Gynghrair gael eu cynnal dramor ymhen dau dymor.

Cafodd y syniad ei grybwyll mewn cyfarfod diweddar o gadeiryddion clybiau’r Uwch Gynghrair, ond does dim penderfyniad pendant hyd yn hyn.

Pe bai’r gemau’n cael eu cynnal dramor, mae’r clybiau’n gobeithio gwneud elw o’u darlledu ar y we.

Mewn fforwm ar gyfer cefnogwyr yr Elyrch, dywedodd Huw Jenkins: “Dw i’n credu ei bod yn anochel y bydd yn digwydd.

“Tra na allwn ni fod yn 100% yn sicr am y peth, fe fydd yn newid mawr i gefnogwyr pêl-droed angerddol fel yr ydyn ni.

“Ochr arall y geiniog yw fod rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n eu dilyn nhw neu fe fyddwn ni’n cael ein gadael ar ein holau.

“Fe fydd gemau’n sicr yn cael eu cynnal dramor ymhen 12 mis neu ddwy flynedd.”

Mae’r ornest rhwng Juventus a Napoli yng nghwpan Super Cup Yr Eidal eisoes wedi cael ei symud i Doha yn Qatar ym mis Rhagfyr, ac mae’r Super Cup Ffrengig wedi cael ei gynnal y tu allan i Ffrainc ers chwe thymor.

Ond fe fyddai cynlluniau tebyg yn Uwch Gynghrair Lloegr yn wynebu cryn wrthwynebiad gan Ffederasiwn y Cefnogwyr gan nad yw’r awdurdodau wedi cynnal ymgynghoriad.

Maen nhw’n dweud y byddai’r cynlluniau’n niweidio’r clybiau’n ariannol gan mai gemau derbi – sy’n cynhyrchu elw sylweddol – fyddai’n fwyaf tebygol o gael eu symud dramor.