Dim ond deuddydd sydd i fynd nes gêm ragbrofol Ewro 2016 fawr Cymru yn erbyn Bosnia-Herzegovina, ac mae’r cyffro’n cynyddu’n barod gyda dros 25,000 o docynnau wedi’u gwerthu ar gyfer y gêm eisoes.

Ac mae criw’r pod pêl-droed nôl i drafod gobeithion Cymru ar gyfer y gemau cartref nesaf, yn erbyn Bosnia ac yna Cyprus ar nos Lun.

Yn ymuno ag Owain Schiavone a Iolo Cheung ar y pod heddiw mae dau o gefnogwyr selog y tîm cenedlaethol, Tommie Collins a blogiwr golwg360 Rhys Hartley.

Mae’r pedwar ohonyn nhw’n trafod pwy hoffen nhw weld yn dechrau i Gymru, yn ogystal â rhai o’r absenoldebau – oes gan James Collins ddyfodol rhyngwladol gyda Chymru bellach?

Maen nhw hefyd yn anghytuno ar a ddylai Gareth Bale chwarae fel ymosodwr, yn ogystal â disgwyliadau Cymru ar gyfer y ddwy gêm nesaf o ran pwyntiau.