Mae Cymru wedi gwneud trydydd newid i’w carfan ar gyfer y ddwy gêm ragbrofol yn erbyn Bosnia-Herzegovina a Chyprus wrth i Gwion Edwards gymryd lle Lee Evans.
Ddoe cafwyd cadarnhad fod yr amddiffynwyr Joe Walsh a Declan John wedi’u galw i’r garfan, yn dilyn anafiadau i James Collins a Paul Dummett.
Roedd Evans hefyd wedi gorfod tynnu nôl ar ôl brifo llinyn y gâr, a heddiw fe ymunodd Edwards â’r tîm.
Fe allai’r asgellwr 21 oed, sydd wedi chwarae chwe gwaith dros y tîm dan-21, ennill ei gap cyntaf dros Gymru yn y ddwy gêm nesaf.
Fe fydd yn gyfarwydd â rhai o’r wynebau eraill yn y garfan eisoes, neb yn fwy na Walsh sydd yn chwarae gydag ef ar lefel clwb i Crawley Town.
Bydd Cymru’n herio Bosnia nos Wener yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda’r gic gyntaf am 7.45yh, ac mae dros 25,000 o docynnau wedi’u gwerthu ar gyfer y gêm honno eisoes.
Yna fe fyddwn nhw’n herio Cyprus nos Lun yn yr un stadiwm, fel rhan o grŵp rhagbrofol Ewro 2016 sydd hefyd yn cynnwys Andorra, Gwlad Belg ac Israel.