Ray Teret
Mae llys wedi clywed bod y DJ poblogaidd ar Radio Caroline, Ray Teret wedi addo y byddai merch 17 oed yn cael “gyrfa ddisglair” yn y cyfryngau wedi iddi ymateb i hysbyseb am gantores bop newydd.
Mae Teret, sy’n 72 oed ac yn ymddangos gerbron Llys y Goron Manceinion, wedi’i gyhuddo o dreisio’r ferch a merch arall 15 oed ynghyd â Jimmy Savile.
Clywodd y llys fod Teret wedi creu argraff ar y ferch trwy gynnig gwaith iddi – ond ni ddaeth y gwaith yn y pen draw.
Yn ôl yr erlyniad, roedd Teret wedi casglu’r ferch o’i chartref ac wedi mynd â hi i’w fflat lle cafodd ei threisio wedi iddi feddwi yn ei gwmni.
Dywedodd yr erlyniad ei bod hi wedi ildio i’r pwysau i gael rhyw â’r diffynnydd, ac fe roddodd Teret £40 iddi gael prynu ffrog newydd.
Awgrymodd yr erlyniad bod Teret yn disgwyl rhyw yn rhodd am ei helpu.
Mae Teret yn gwadu 18 cyhuddiad o dreisio, dau gyhuddiad o ymosod yn rhywiol, un cyhuddiad o geisio treisio, 11 cyhuddiad o ymosod yn anweddus a dau gyhuddiad o ymddygiad anweddus tuag at blentyn.
Mae’r cyhuddiadau, sy’n dyddio’n ôl i 1962, yn ymwneud ag 17 o ferched.
Mae dau ddyn arall yn sefyll eu prawf ochr yn ochr â Teret.
Mae Alan Ledger, 62, yn gwadu un cyhuddiad o ymosod yn rhywiol, dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus ac un cyhuddiad o ymddygiad anweddus tuag at blentyn.
Mae William Harper, 65, yn gwadu un cyhuddiad o geisio treisio.
Mae’r achos yn parhau.