Llys y Goron Caerdydd
Mae un o’r dynion sy’n cael eu cyhuddo o orfodi dyn i weithio heb dâl ar eu fferm ger Casnewydd am 13 blynedd wedi pleidio’n euog i’r cyhuddiad.
Newidiodd David Daniel Doran, 42 oed, ei ble yn Llys y Goron Caerdydd y prynhawn ma.
O ganlyniad fe benderfynodd yr erlyniad ollwng eu hachos yn erbyn ei dad, Daniel Doran, 67 oed, oedd yn wynebu’r un cyhuddiad.
Y cefndir
Daethpwyd o hyd i Darrell Simester, o Kidderminster, oedd wedi bod ar goll ers 2000, ar Fferm Cariad yn ardal Maerun ger Casnewydd y llynedd.
Yn ystod yr achos, clywodd y rheithgor ei fod wedi bod yn cysgu mewn sied gyda llygod mawr am fwy na degawd, cyn cael ei symud i garafán fudr ac oer gyda drws wedi torri.
Dywedodd John Hipkin QC ar ran yr erlyniad, bod teulu Darrell Simester wedi dweud ei fod mewn “cyflwr erchyll” pan ddaethpwyd o hyd iddo a’i bod hi bron yn amhosibl ei adnabod.
Y mis diwethaf, roedd Daniel Doran, a’i fab David Doran, o Lanbedr Gwynllŵg wedi pleidio’n ddieuog i gyhuddiad o orfodi Darrell Simester i weithio ar y fferm.
‘Caethwasiaeth yn bodoli yn ein cymunedau’
Cafodd David Doran ei ryddhau ar fechniaeth a bydd yn cael ei ddedfrydu ar 24 Hydref. Mae’r barnwr wedi ei rybuddio y gallai wynebu cyfnod yn y carchar.
Dywedodd Catrin Attwell, prif erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron, ei bod yn croesawu’r datblygiad yn yr achos heddiw.
“Mae’r achos yma yn dangos bod caethwasiaeth yn yr oes fodern yn bodoli o fewn ein cymunedau lleol. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi’i ymrwymo i weithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod y rhai hynny sy’n ceisio ecsbloetio eraill yn y fath fodd yn cael eu dwyn i gyfrif.
“Rwy’n gobeithio y bydd y ple heddiw yn helpu Darrell Simester a’i deulu wrth iddyn nhw geisio symud ymlaen gyda’u bywydau.”