Ray Teret
Clywodd llys ym Manceinion heddiw bod cyn-DJ ar Radio Caroline wedi treisio merch 15 mlwydd oed ynghyd a Jimmy Savile.
Roedd Ray Teret yn gyfaill i Jimmy Savile ac yn gweithio iddo fel chauffeur.
Mae Ray Teret yn wynebu mwy na 30 cyhuddiad o gam-drin rhywiol sy’n dyddio nôl i’r 1960au, gan gynnwys 18 cyhuddiad o dreisio.
Mae’n gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Mae’r gŵr 72 mlwydd oed o flaen ei well gyda dau ddyn arall, Willliam Harper ac Alan Ledger.
Honnir fod Ray Teret wedi mynd a’r ferch i fflat yn ardal Manceinion yn y 1960au cynnar ac roedd Jimmy Savile yno hefyd.
Mae’r erlyniad yn honni bod Savile wedi treisio’r ferch yn gyntaf a bod Teret hefyd wedi ei threisio ar ôl hynny.
Mae’r achos yn parhau.