Cynulliad
Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud gwelliannau i ddrafft Mesur Cymru i gael gwared ar y system “lockstep”.

Caiff y gwelliannau eu trafod yn Nhŷ’r Arglwyddi’r wythnos nesaf ac mi fyddan nhw, os cânt eu cymeradwyo, yn galluogi’r Cynulliad Cenedlaethol i osod cyfraddau gwahanol o dreth incwm ar gyfer pob band treth yng Nghymru.

Mae’r system “lockstep” yn golygu bod pob band treth yn newid ar yr un raddfa, ond mae cael gwared â’r cyfyngiad yn golygu y gall Llywodraeth Cymru, mewn egwyddor, godi trethi ar y cyfoethocaf a’u gostwng i’r tlotaf yn y gymdeithas.

Ond bydd datganoli pwerau treth incwm i Gymru yn ddibynnol ar refferendwm.

‘Helpu’r economi’

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Cymru: “Mae’r pwerau treth incwm newydd yn ddull i helpu economi Cymru fod yn fwy deinamig a gwneud Llywodraeth Cymru yn fwy atebol.

“Trwy ei ddefnyddio’n gywir, gall y pwerau roi hwb i dwf economaidd a fyddai’n golygu mwy o bobl yng Nghymru mewn swyddi ac yn mwynhau gwell safon byw.

“Ond, rwyf wastad wedi credu bod angen i’r pwerau trethu hyn fod yn hyblyg, a dyna pam ein bod ni nawr yn cael gwared ar y cyfyngiad lockstep ar sut fydd y pwerau’n cael eu defnyddio. Mae hyn yn ddatganoli gyda phwrpas.”