Ysbyty Glan Clwyd
Mae Heddlu’r Gogledd wedi cadarnhau eu bod yn cynnal ymchwiliad i’r gofal gafodd ei roi i gleifion mewn uned iechyd meddwl a gaeodd y llynedd yn dilyn “pryderon difrifol”.

Mae’n dilyn adroddiad gafodd ei ryddhau sy’n trafod safon y gofal yn uned Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.

Cafodd y ward, sy’n trin cleifion oedrannus â dementia ac sy’n rhan o uned seiciatrig Ablett, ei chau ym mis Rhagfyr 2013 pan gafodd yr honiadau eu gwneud yn wreiddiol. Cafodd nifer o staff Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu gwahardd o’u gwaith bryd hynny.

Dywedodd y Prif Swyddog Ymchwiliol, Lisa Surridge o Uned Gwarchod y Cyhoedd:

“Rwyf wedi cael fy hysbysu gan awdur adroddiad annibynnol ar y gofal yn uned Tawel Fan.

“Fe fydd swyddogion rŵan yn adolygu’r dogfennau a deunyddiau eraill gafodd eu casglu yn ystod yr arolwg.

“Bydd swyddogion hefyd yn cysylltu â pherthnasau’r cleifion oedd yn derbyn triniaeth yn uned Tawel Fan am y ddwy flynedd cyn iddi gau.

“Bwriad yr adolygiad yw sefydlu os oes unrhyw dystiolaeth o droseddau’n cael eu cyflawni.”