Dug a Duges Caergrawnt
Mae Dug a Duges Caergrawnt wedi dwyn achos yn erbyn ffotograffydd yn dilyn honiadau ei fod e wedi ceisio tynnu llun eu mab, George ym mharc Battersea yn Llundain.

Roedd nani’r pâr wedi mynd am dro gyda’u mab pan ymddangosodd y ffotograffydd, ac fe gafodd y plenty ei gludo o’r parc yn dilyn y digwyddiad.

Mae lle i gredu bod y ffotograffydd wedi bod yn dilyn George a’i rieni ers cryn amser.

Mewn datganiad, dywedodd y pâr eu bod nhw’n awyddus i’w mab fyw bywyd mor arferol â phosib, a bod dilyn eu mab yn annerbyniol.

Yn ôl papur newydd yr Evening Standard, cafodd ffotograffydd orchymyn gan yr heddlu i symud o’r tu allan i Balas Buckingham yn ddiweddar.