Madarch gwyllt
Mae arbenigwyr iechyd yn rhybuddio pobol i fod yn ofalus cyn bwyta madarch gwyllt, yn dilyn nifer uchel o achosion o wenwyno.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Lloegr (PHE) fod 84 achos o wenwyn madarch wedi dod i’r amlwg eleni, a hynny cyn i’r tymor casglu madarch gychwyn.
Mae’r corff yn galw ar bobol i gymryd gofal wrth gasglu madarch ym Mhrydain ac i fod yn wyliadwrus o’r rhai mathau o fadarch all achosi salwch difrifol neu hyd yn oed farwolaeth.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi’r alwad.
Peryglon
“Wrth i’r tywydd ddechrau newid, fe fydd nifer o bobol yn mentro allan i chwilota am fwydydd gwyllt. Ond pan mae’n dod at fadarch, mae angen i bobol fod yn ymwybodol o’r peryglon,” meddai Dr John Thompson, cyfarwyddwr y Gwasanaeth Gwybodaeth Gwenwyn Cenedlaethol yng Nghaerdydd.
“Yr adeg yma o’r flwyddyn rydym yn gweld cynnydd yn nifer yr achosion o wenwyno. Mae hyn oherwydd ei bod hi’n anodd gwahaniaethu rhwng y madarch gwenwynig a’r rhai bwytadwy, hyd yn oed i bobol sydd â phrofiad yn y maes.”